Busnesau bach yn ffynnu yn Y Bala wrth i 'bawb gefnogi ei gilydd'

Prin yw'r siopau gwag ar stryd fawr Y Bala
- Cyhoeddwyd
Mae arweiniad gan fusnesau bach annibynnol yn allweddol i gwrdd â heriau'r stryd fawr, yn ôl Ffederasiwn y Busnesau Bach.
Mae'r ffactorau sy'n ei gwneud hi'n anodd i ganol trefi'n gyfarwydd ers amser - siopa ar y we, parcio a threthi busnes ymhlith eraill.
Wrth i fwy o gwmnïau cadwyn fynd i drafferthion ers y pandemig, mae'r bylchau yng nghanol sawl tref yng Nghymru wedi cynyddu.
Ond yn Y Bala yng Ngwynedd, mae'r bylchau hynny'n brin a'r rhan fwyaf o unedau'r stryd fawr yn llawn ac yn cael eu rhedeg gan fusnesau bach, annibynnol.
'Rhaid i chi agor siop!'
Becws Islyn ydy un o'r busnesau diweddaraf i agor siop yma.
Dywedodd y perchennog Rhodri Pritchard wrth Newyddion ar S4C fod gweithgarwch lleol yn un o'r pethau a wnaeth ei ddenu.
"'Den ni wedi bod yn dod i'r Bala 'ma'n gyson efo'r ffair. Mae ganddyn nhw ddwy ffair, un yn y gwanwyn ac un yn yr hydref.
"Ac oedden ni'n cael cefnogaeth dda. Oedd genno ni stondin yn y neuadd ac roedd 'na gefnogaeth andros o dda gan y bobl leol.
"Dyna oedd yr ymateb bob tro oedden ni'n dod, 'Rhaid i chi agor siop yn y Bala!'"

Mae cryn fwrlwm yn Y Bala, meddai Megan Llŷn, sy'n berchen ar siop yno
Fe agorodd Megan Llŷn siop ddillad Amdanat ddwy flynedd a hanner yn ôl.
"Mae 'na lot o fwrlwm yma. Mae'r busnesau eu hunain yn cefnogi ei gilydd," meddai.
"Mae 'na grŵp busnesau bach y Bala. 'Dan ni'n cyfarfod bob hyn a hyn, so mae'n teimlo bod hi'n dref gefnogol o ran y busnesau'n helpu ei gilydd."

Mae tre'r Bala yn denu nifer o dwristiaid, meddai Tim Williams
Yn elwa ar lwyddiant timau pêl-droed Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, mae siop SO58 yn denu cwsmeriaid o bedwar ban byd.
Er mai ar y we mae'r perchennog Tim Williams yn gwerthu fwyaf, mae'n teimlo bod y siop go iawn yn allweddol i'w fusnes.
"Mae'r Bala'n tynnu lot o tourists i fewn. Mae 'na siopau reit gwahanol i'r rhai run of the mill ti'n gael.
"Mae 'na lot o independent siopau yn trio'u gore a mae pobl sy'n rhedeg siopau yn Bala yn rhoi dipyn bach mwy o effort i dynnu pobl o wahanol lefydd i mewn i Bala."

Mae gwahaniaeth barn a ddylid cael siopau cadwyn mawr ar y brif stryd, meddai'r Cynghorydd Dilwyn Morgan
Er bod rhyw lond dwrn o siopau gwag ar y stryd fawr ar hyn o bryd, mae'n debyg bod unedau'n llenwi'n weddol gyflym pan maen nhw'n dod yn rhydd.
Hyd yma prin iawn ydy'r siopau cadwyn mawr a siopau elusen yn y dref.
Yn ôl Cynghorydd Dilwyn Morgan, mae rhai cwmnïau mawr wedi dangos diddordeb yn y gorffennol.
"Mae'n rhywbeth sy'n codi ei ben weithiau, ac mae'n hollti'r gymuned. Mae rhai pobl yn deud bod o'n beth da oherwydd bod o'n dod â cystadleuaeth i fusnesau eraill.
"Ond edrychwch chi ar gymunedau lle mae 'na fusnesau mawr wedi symud i gyrion trefi, ar i lawr mae'r stryd fawr yn mynd yn anffodus."
- Cyhoeddwyd3 Mawrth
- Cyhoeddwyd1 Ebrill
Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Consortiwm Manwerthu Prydain: "Mae cwsmeriaid yn elwa o'r amrywiaeth o gyrchfannau siopa sydd ar gael iddynt, boed hynny'n cerdded i lawr eu stryd fawr leol neu'n gyrru i'w parc manwerthu agosaf.
"Mae'r rhan fwyaf o fanwerthwyr yn defnyddio amrywiaeth o leoliadau er mwyn cwrdd ag anghenion eu cwsmeriaid.
"Er bod canol dinasoedd yn hanfodol oherwydd eu bod yn agos at nifer fawr o siopau manwerthu, lletygarwch a hamdden, mae parciau manwerthu yn aml yn cynnig lle ar gyfer siopau mwy."
Mae busnesau lleol, gweithgar yn allweddol i iechyd unrhyw stryd fawr, yn ôl Llyr ap Gareth o Ffederasiwn y Busnesau Bach.
"Be' 'dan ni'n weld sy'n bwysig i gael stryd fawr lewyrchus ydy busnesau lleol yn dangos arweinyddiaeth, yn gweithio gyda'i gilydd, yn siapio stryd fel maen nhw'n gweld sydd angen.
"Busnesau lleol sy'n mynd i wybod orau be' maen nhw angen felly mae'n bwysig bod nhw'n cael eu galluogi i wneud hynna trwy gefnogaeth er mwyn sicrhau bod nhw'n cael y cyfle i greu stryd fawr sy'n llewyrchus."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.