Busnesau y gogledd i gael biliau trydan uwch ar gyfartaledd

Llun thermostatFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae'n debygol y bydd busnesau bach a rhai canolig yng ngogledd Cymru yn talu 13% yn fwy am bris trydan y flwyddyn ariannol nesaf o'i gymharu â busnesau cyfatebol yn Llundain - bron i £19,000 yn fwy ar gyfartaledd.

Mae'r gwahaniaeth ym miliau'r ddau ranbarth o ganlyniad i'r ffaith fod gan ogledd Cymru a Glannau Mersi gostau gwasanaethau uwch - a elwir yn daliadau trydydd parti.

Mae ymchwil wedi dangos bod 81% o fusnesau'r DU yn disgwyl codi prisiau oherwydd biliau ynni uwch.

Dywedodd un perchennog busnes yn Wrecsam y bydd y cynnydd 1 Ebrill yn effeithio ar elw sydd eisoes yn isel.

Mae taliadau trydydd parti yn amrywio fesul rhanbarth. Maen nhw'n cynnwys yr holl daliadau heblaw y pris tanwydd ei hun - y pris cyfanwerthu - ac fel arfer maen nhw oddeutu 60% o bris y bil.

Maen nhw'n cael eu rhannu yn fras yn daliadau rhwydwaith fel costau dosbarthu a throsglwyddiad, a chostau polisi fel cyllid ar gyfer mentrau'r llywodraeth fel ynni adnewyddadwy.

Mae cwmni Borras Dry Cleaners yn Wrecsam - sy'n gwneud gwaith golchi dillad proffesiynol ar gyfer gwestai a busnesau eraill - angen digon o nwy a thrydan i gadw'r peiriannau i droi.

Mike Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mike Jones: "Mae'n rhaid bod 'na gyfnod lle mae'n rhaid i'r llywodraeth gamu mewn "

Fe wnaeth Cornwall Insight wneud ymchwil ar sut y bydd cwmnïau yn cael eu heffeithio gan y gwahaniaeth o fewn taliadau ar draws y DU.

Dywedodd Dr Craig Lowrey, Prif ymgynghorydd Cornwall Insight: "Mae'r rhagolygon yma yn nodi gwahaniaethu rhanbarthol mewn costau ar gyfer busnesau bach a chanolig.

Mae'r taliadau trydydd parti y mae'r rhai mewn rhanbarthau penodol yn eu hwynebu ond yn tynnu sylw at y problemau a wynebir gan y busnesau hynny - busnesau sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd.

Dywedodd Mike Jones: "Byddech yn edrych ar yr un sy'n cystadlu yn eich erbyn ac yn meddwl: 'Pwy sy'n mynd i fynd yn gyntaf?' Os yw'r cwmni yna yn mynd gyntaf byddech yn cymryd eu gwaith.

"Yna rydych yn cael mwy o gostau ynni. Mae'n rhaid bod 'na gyfnod lle mae'n rhaid i'r llywodraeth gamu mewn a stopio hyn."

'Amser i adolygu strategaethau'

Daw'r cynnydd hwn ar ben y cynnydd diweddar mewn yswiriant gwladol i gyflogwyr a biliau eraill sy'n golygu bod y cyhoedd yn wynebu prisiau uwch fyth wrth i gwmnïau drosglwyddo costau ychwanegol.

Dywed Craig Lowrey: "Nawr yw'r amser i fusnesau i adolygu eu strategaethau ynni, i archwilio cyfleoedd newid, ac i ystyried mesurau effeithlonrwydd er mwyn helpu i leihau'r costau cynyddol."