Diwedd cyfnod i siop Awen Meirion, Y Bala

- Cyhoeddwyd
Mae siop Awen Meirion wedi bod yn rhan annatod o Stryd Fawr Y Bala ers 1972, ac ers 1990 mae un dyn wedi bod wrth y llyw yno, Gwyn Siôn Ifan.
Mae Gwyn wedi penderfynu rhoi'r gorau i fod yn reolwr ar y siop, gan basio'r awenau i Rhian Williams, sydd eisoes yn gweithio yno.
Bu Ffion Dafis yn sgwrsio gyda Gwyn ar ei rhaglen ar BBC Radio Cymru am ei benderfyniad i roi'r gorau i reoli'r siop.

Siop Awen Meirion ar Stryd Fawr Y Bala
"Mae yna flwyddyn a mwy bellach ers dwi 'di meddwl amdano fo", meddai Gwyn, "ac roedd gwneud y penderfyniad a'i rhoi o flaen y cyfarwyddwyr ddim yn hawdd.
"Eto, o'n i'n teimlo dwi 'di bod yma ddigon rŵan ac mae posib i bethe fynd yn stêl a mod i'n colli syniadau newydd i yrru'r siop yn ei blaen. Felly, 'nes i benderfynu gan fod i'n dod i'r oed i ymddeol, bod yr amseriad yn iawn.
"Mae o hefyd yn rhoi digon o gyfle i Rhian, fydd yn fy nilyn i, i ehangu ymhellach a bydd 'na ddigonedd o flynyddoedd o'i blaen hi."
Bydd Gwyn yn parhau i weithio yn y siop am ddeuddydd yr wythnos, ynghyd ag Alison, fydd hefyd yno am ddeuddydd.

Rhian Williams, a fydd yn olynu Gwyn fel rheolwr Awen Meirion
Pan oedd yn iau fe ddechreuodd Gwyn yrfa fel cogydd, ond yn 1984 fe geisiodd am swydd gyda Siop y Siswrn yn Yr Wyddgrug.
"Ar y pryd roedd fy ddiweddar chwaer yn gweithio yno, a ges i gyfweliad yn Y Bala. Roedd cyfarwyddwyr Siop y Siswrn yn agor cangen yn Wrecsam, a mynd yno wnes i iweithio, gan rannu'n amser rhwng Wrecsam a'r Wyddgrug.
"Fues i yn Yr Wyddgrug am chwe blynedd a hanner, ac yn 1990 ddes i yma i Awen Meirion, a dyma lle dwi 'di bod."
Y fenter o agor Awen Meirion
Dywed Gwyn fod sefydlu siop Awen Meirion yn 1972 yn dipyn o her yn ei hun, ac mae'n talu teyrnged i'r aberth a wnaeth y bobl o'i flaen, pan oedd arian yn brin.
"Roedd yr 11 cyfarwyddwr cyntaf Awen Meirion i gyd yn gorfod cael benthyciad, er eu bod nhw i gyd mewn swyddi bydden ni'n ei alw'n 'swyddi da' heddiw. A heb wragedd y cyfarwyddwyr pryd hynny, a weithiodd yma am ddim, lle fydda Awen Meirion a Gwyn Sion Ifan heddiw?... Does wybod.
"Rhaid cofio pwysigrwydd hynna a'r gwahaniaeth 'nath y criw yna i'r Bala a Phenllyn, yn ogystal â'r perchnogion y siopau llyfrau eraill i'w hardaloedd eu hunain.
"Mae 'na gyfnodau anodd wedi bod, fel yng nghanol yr 80au, ond mae Awen Meirion dal i fod yma 53 o flynyddoedd yn ddiweddarach."

Cyfarwyddwyr cyntaf siop Awen Meirion - o'r chwith i'r dde; John Vaughan Evans, Elwyn Jones, Emrys Jones, Emyr Puw, Elfyn Pritchard (Ysgrifennydd cyntaf Cwmni Awen Meirion cyf.), Ifor Owen (Cadeirydd cyntaf Cwmni Awen Meirion cyf.) Mair Edwards, Ann Roberts, Trefor Edwards, Vernon Jones.
Yn eistedd chwith i'r dde: Nansi Pritchard a Winnie Owen - dwy o dair fu'n gweithio'n wirfoddol am dros flwyddyn, cyn penodi'r Prifardd Alan Llwyd yn rheolwr cyntaf y siop yn 1973
Angen dyfeisgarwch
"Rhaid bod yn ddyfeisgar a mynd allan o'r siop, mynd â'r cynnyrch i'r gynulleidfa a mynd allan i'r cymdeithasau i ennyn y diddordeb yna," meddai Gwyn.
Ond mae Gwyn hefyd yn pryderu am ddyfodol y celfyddydau yng Nghymru.
"Mae 'na ddiffyg buddsoddi 'di bod yn y gorffennol. Roedd 'na adeg pan oedd actorion yn mynd i ysgolion i ddehongli tair nofel i blant a phobl ifanc, ac roedd yr ymateb yn anhygoel, gyda hynny'n cael ei adlewyrchu yn y gwerthiant llyfrau.
"Ond daeth pethau fel'na i ben a doedd 'na ddim anogaeth i bobl ifanc barhau i ddarllen... heb fuddsoddiad call, dydi o ddim yn mynd i weithio a bydd y diddordeb ddim yna.
"Ers talwm oedden ni'n poeni am ddiffyg darllen ymysg plant yn eu harddegau, rŵan 'dan ni'n poeni am blant oed cynradd.
"A peidiwch â siarad efo fi eto am y miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, oni bai bo' nhw'n pasa buddsoddi'n gall i godi'r ganran siaradwyr yng Nghymru. Mae o i gyd yn ymwneud â'i gilydd, a dim gwariant ydi o ond buddsoddiad, ac mae'n rhaid iddyn nhw edrych arno fo fel buddsoddiad."

Y siop ar ddechrau'r 1970au cyn llenwi'r silffoedd am y tro cyntaf
Mae Gwyn yn teimlo bod mwy o sylw angen ei roi i'r celfyddydau yng Nghymru, yn arbennig llenyddiaeth Gymraeg.
"Dydi o ddim yn gwneud synnwyr i mi fod 'na ddim rhaglen deledu ar lyfrau yn benodol. A dwi'n falch i mi fod yn rhan o'r grŵp yn ymgyrchu am raglen gelfyddydau ar Radio Cymru pan ddoth y Silff Lyfrau i ben – 'dan ni'n cael rhaglenni o'r fath ar Radio Cymru bellach. Hefyd wrth gwrs, Colli'r Plot, gen dîm o awduron sydd dwi'n meddwl 'di dallt hi – trin a thrafod llyfrau go iawn a phawb yn cael dweud be licia nhw.
"'Dan ni'n y gorffennol wedi gorfod dibynnu'n ormodol ar adolygwyr proffesiynol, a dydyn ni ddim wedi canolbwyntio digon ar ein darllenwyr o ddydd i ddydd, sydd yn y pen draw'n cadw'r siopau llyfrau i fynd.
"Mae 'na gymaint o lyfrau amrywiol i'w cael a tydi pob llyfr ddim am apelio i bawb, felly mae'n bwysig bo'r amrywiaeth o adolygiadau hefyd yn digwydd."
'Rhaid buddsoddi'
Ychwanegodd Gwyn: "Mae'r pryniant wedi disgyn mewn meysydd lle mae 'na brinder buddsoddi wedi bod mewn ysgolion yn enwedig.
"Dwi'n gwybod bod arian yn brin, ond mae'n rhaid i chi fuddsoddi yn y mannau iawn i gael gweld canlyniad call. Os nad oes 'na ddigon o arian yn mynd mewn i'n system addysg ni, mae 'di darfod dydi."

Yn rheoli Awen Meirion cyn Gwyn oedd Y Prifardd Elwyn Edwards o 1974 i 1988, yna Llŷr Edwards sydd bellach yn ohebydd i'r BBC, ac yna Carys Edwards
Er gwaethaf yr heriau niferus mae Gwyn yn obeithiol am ddyfodol Awen Meirion.
"Mae Rhian yn brofiadol, 'di bod 'ma ers blynyddoedd, a dwi'n gwybod bydd y siop yn ddiogel efo hi. Dwi'n edrych ymlaen dim gorfod poeni am ryw waith papur ag ati – mae hynny'n dod â gwên i'n wyneb i!
"Ond 'dan ni'n dîm da yma ers blynyddoedd bellach, ac mi fydd 'na fwy o gydweithio, rhannu syniadau a gyrru'r siop yn ei blaen."

Gwyn a Ffion gyda Ian (un o gyfarwyddwyr y siop), a Rhian (rheolwr newydd y siop)
Felly, beth mae Gwyn yn bwriadu ei wneud efo mwy o amser rhydd ar ei ddwylo?
"Dwi newydd brynu pâr newydd o sgidiau cerdded, a fydd heiny dda i ddim byd yn y bocs. Dwi am drio ffeindio llefydd gwahanol i fynd efo nhw, cawn ni weld – cymryd hi fel daw hi de...
"Dwi 'di bod yn lwcus iawn ar hyd y blynyddoedd o gael swydd dwi 'di fwynhau ei wneud, a chyfarfod cynifer o bobl. Ac mae cael bod mewn swydd y dyddiau 'ma ble mae rhywun yn mwynhau be 'ma nhw'n gwneud, a ddim yn poeni'n ormodol o ddod i'w waith yn y bore... waw mae hwnna'n fonws anhygoel tydi!
"Mae 'di bod yn fraint bod yn rhan o hyn i gyd, ac mae'r gefnogaeth dwi'n bersonol a'r siop yn genedlaethol wedi ei gael wedi bod yn anhygoel, a dwi yn wir gwerthfawrogi cefnogaeth pawb – a daliwch i brynu llyfrau!"

Gwyn a Ffion
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd3 Chwefror
- Cyhoeddwyd4 Ionawr