Cwmbrân: Arestio dau wedi i ddyn gael ei daro gan gar
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 26 oed yn yr ysbyty gydag anafiadau allai newid ei fywyd yn dilyn adroddiadau iddo gael ei daro gan gar yng Nghwmbrân.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Fairwater Way ar ôl tua 20:45 nos Iau.
Mae dau ddyn - 18 oed o Gwmbrân a 24 oed o Gasnewydd - wedi eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio.
Mae'r ddau'n cael eu cadw yn y ddalfa, yn ôl Heddlu Gwent.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Brendan Chambers, yr uwch swyddog ymchwilio, eu bod yn gwneud ymholiadau pellach ac y bydd presenoldeb yr heddlu'n amlwg yn ardal Fairwater, Cwmbrân.
“Os oes gennych chi bryderon neu wybodaeth, stopiwch a siaradwch â ni," dywedodd.