Ymgynghoriad ar leihau cyfnodau parcio am ddim yng Nghaerdydd

Maes Parcio Caerdydd
  • Cyhoeddwyd

Mae cyngor wedi dechrau ymgynghoriad ar leihau cyfnod parcio am ddim o ddwy awr i 30 munud.

Daw'r penderfyniad gan Gyngor Caerdydd ar ôl i swyddogion dderbyn adborth negyddol ar gynigion i gael gwared ar y cyfnod dwy awr yn gyfangwbl.

Mae'r meysydd parcio sydd wedi'u cynnwys yn Nhreganna, Glan-yr-afon, Y Waun Ddyfal, Llandaf, Yr Eglwys Newydd, a'r Mynydd Bychan.

Mae Cyngor Caerdydd wedi dweud y bydd y newid "yn caniatáu i yrwyr fynd i mewn i siopau/busnesau lleol ac ati heb dâl".

Sean O’Driscoll ar y dde pell
Disgrifiad o’r llun,

"Os oes gan bobl ddwy awr gyfan, byddan nhw'n aros ac yn ymweld [â busensau lleol]," meddai'r Cynghorydd Sean O'Driscoll (dde)

Mae'r newidiadau sy'n cael eu trafod hefyd yn cynnwys ehangu tocynnau tymor (lle telir llai o bris am barcio) mewn meysydd parcio arhosiad hir a chynyddu ffioedd am barcio arhosiad hirach.

Dywedodd y cynghorydd dros Landaf, Sean O'Driscoll, sy'n cefnogi cael parcio am ddwy awr lawn, "er bod cael parcio am hanner awr yn fuddugoliaeth fach, nid yw'n ddigon hir".

"Mae pobl angen mynd i fferyllfeydd, meddygfeydd, siopau a busnesau lleol. Mae cael parcio am gyfnod hwy yn cefnogi busnesau pan fyddant ei angen fwyaf.

"Os oes gan bobl ddwy awr gyfan, byddan nhw'n aros ac yn ymweld â'r lleoedd yma".

Mewn cynnig a gafodd ei gyflwyno i'r cyngor yn 2024, pan oedd y cynlluniau i gael gwared ar barcio am ddim yn llwyr, dywedodd y cynghorydd: "Dwi'n gwybod bod pwysau cynyddol ar gyllidebau i wneud arbedion a chodi arian ychwanegol lle bynnag y gallwn. Ond ni ddylai beryglu busnesau y Stryd Fawr".

Mae gan drigolion tan 4 Medi i gyflwyno unrhyw wrthwynebiadau sy'n ymwneud â'r gorchymyn diwygiedig.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig