Perfformiad panto ymlaciedig yn 'dathlu pob math o berson'

Elin PhillipsFfynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin Phillips , sydd yn chwarae rhan Gretel yn y panto, yn nodi fod y perfformiadau yma yn ffordd i bawb fwynhau

  • Cyhoeddwyd

Bydd cynulleidfaoedd theatr yn cael eu hannog i sgwrsio a symud fel y mynnent gan gwmni sydd eisiau cynnal perfformiadau sy'n agored i bawb.

Mae Theatr y Sherman yng Nghaerdydd yn cynnal perfformiadau hygyrch o’i chynhyrchiad Hansel a Gretel.

Yn y perfformiadau yma, mae’r gynulleidfa yn gallu mynd a dod fel maen nhw eisiau a sgwrsio fel maen nhw eisiau hefyd, a hynny er mwyn gwneud yn siŵr fod pawb yn teimlo’n ddigon cyfforddus i allu mwynhau’r sioe.

O’r tywyllwch arferol sydd mewn theatrau, i’r awyrgylch swnllyd, anghyfarwydd, gall fynd i’r theatr fod yn brofiad heriol i blant sydd ag awtistiaeth.

Cefnogaeth ychwanegol i'r gynulleidfa

Ond mae’r sioe yma, yn ôl Elin Phillips sy’n chwarae rhan Gretel, yn rhoi cyfle i bawb fwynhau.

Dywedodd: “Yn ogystal â chael adran i fynd mas a chael hoe, chill out zone fel ma' nhw’n dweud yn Saesneg, os ewch chi i’r swyddfa docynnau ma' 'na amddiffynwyr clustiau a theganau sensori.”

Mae James Ifan yn chwarae rhan Hansel, mae’n dweud “i ni fel actorion, ni just yn gwybod bydd ymateb y gynulleidfa yn hollol wahanol”.

“Bydd ‘na lot mwy o siarad, bydd ‘na lot mwy o sgwrsio falle, symud o gwmpas eitha’ lot a ni’n delio gyda hwnna ar y pryd.”

Ychwanegodd bod y perfformiadau ymlaciedig yma yn gyfle i’r “gynulleidfa sydd ddim fel arfer yn dod i’r theatr achos bod e'n rhy dywyll neu rhy swnllyd - fwynhau fel pawb arall”.

Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Dywed James Ifan, actor y cymeriad Hansel, bod y panto yn ceisio cyflwyno cynulleidfa newydd i'r byd theatr

Yn ôl Theatr y Sherman, mae eu perfformiadau ymlaciedig yn rhan bwysig o’r gwaith o geisio gwneud y theatr yn hygyrch i bawb.

Ond faint o alw sydd am berfformiadau o’r fath?

Yn ôl Lowri Morgan, Cydymaith Llenyddol y Theatr, mae’r sioeau yn “gwerthu allan rhan amlaf”.

“Pan ‘nath ni ddechrau, oedda’ ni ddim yn siŵr faint o bobl fysa’n licio dod, ond ma’n amlwg i ni bod y galw yna a bod y bobl sydd yn dod yn cael gymaint allan ohona fo, felly mae o just yn hollol bwysig bod y math yma o hygyrchedd yn cario ‘mlaen.”

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Lowri Morgan bod galw am berfformiadau o'r fath

Mae estyn croeso cynnes i bob plentyn yn rhan allweddol o’r perfformiadau, a’r actores Mari Fflur, sydd hefyd yn actio yn y sioe, yn dweud “i fi dyna be' ma' theatr fod 'neud”.

“Ma' fod croesawu’r gymuned i fewn a dathlu pob math o berson a 'neud yn siŵr fod pawb yn gallu dod i fewn i’r theatr a theimlo’n rhan o rywbeth.”

Pynciau cysylltiedig