Dioddefwr ymosodiad difrifol yn 2002 wedi marw

Leon Adams gyda'i chwaer Louise
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a ddioddefodd ymosodiad difrifol ar stryd yng Nghaerdydd bron i 23 o flynyddoedd yn ôl wedi marw.
Daethpwyd o hyd i Leon Adams yn anymwybodol ger gorsaf reilffordd Grangetown yn yr oriau mân ar 14 Chwefror 2002.
Yn 24 oed ar y pryd, fe fu mewn coma yn yr ysbyty am ddwy flynedd ac fe gafodd anafiadau a newidiodd ei fywyd.
Roedd angen gofal parhaus arno wedi iddo golli'r gallu i gyfathrebu ac i ddefnyddio ei goesau a'i freichiau.
Er i elusen gynnig gwobr o £10,000 i geisio dod o hyd i'r sawl oedd yn gyfrifol ni ddaethpwyd o hyd i'r ymosodwr.
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2018
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad oriau wedi i dîm pêl-droed Cymru wynebu'r Ariannin yn Stadiwm y Mileniwm, fel yr oedd yn cael ei 'nabod ar y pryd.
Fe gafodd ei weld ar luniau CCTV yng nghanol y ddinas tua 02:00 y bore, a'i ganfod yn gorwedd ar y llawr am 05:10.
Roedd ei wyneb wedi chwyddo ac yn waedlyd.
Y gred yw bod tri dyn yn rhan o'r ymosodiad, a ddigwyddodd o gwmpas 02:30.

Llun CCTV o Leon Adams yng nghanol Caerdydd cyn yr ymosodiad arno
Dywed Heddlu De Cymru y bydd yn parhau i gymryd camau os ddaw gwybodaeth newydd i'r fei.
Dywedodd llefarydd bod y llu "erioed wedi anghofio'r ymosodiad ciaidd ar Leon Adams yn Grangetown... sydd yn anffodus heb ei ddatrys er gwaethaf ymholiadau trylwyr".
Ychwanegodd: "Rydym yn ymwybodol bod Leon wedi marw yn ddiweddar. Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Leon ar yr adeg trist yma."
'Pam wnaethon nhw 'neud e?'
Pan gafodd y wobr ariannol ei chynnig yn 2018 yn y gobaith i ddal y sawl a'i anafodd, dywedodd ei fam Angela Main bod cael gwybod y gwir "yn golygu llawer" iddo.
"Mae e'n gofyn yn aml - mae e eisiau gwybod pam," meddai. "Pam wnaethon nhw wneud e?
"Sut allwch chi sathru ar wyneb dyn, yn llythrennol mor galed nes eich bod yn gadael ôl troed sy'n bosib ei gyfateb i esgid? Dydw i ddim yn deall pam."