Merch, 17, wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad laddodd ddau Gymro

Sophie Bates o StaffordFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sophie Bates yn 17 oed ac yn dod o Stafford

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw merch 17 oed a fu farw o'i hanafiadau yn dilyn gwrthdrawiad a laddodd ddau ddyn ifanc o ardal Wrecsam.

Bu farw Dafydd Hûw Craven-Jones, 18, o Dan-y-fron, a Morgan Jones, 17, o Goedpoeth, mewn gwrthdrawiad un cerbyd yn Sir Stafford dros y penwythnos.

Cafodd dwy ferch 17 oed eu cludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad yn Penkridge.

Cadarnhaodd Heddlu Sir Stafford bod un ohonynt - Sophie Bates o Stafford - wedi marw nos Fawrth 28 Mai.

Roedd hi'n teithio yng nghefn y cerbyd Ford Ka pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad, meddai Heddlu Sir Staffordd.

Mae'r ferch arall bellach wedi cael ei rhyddhau o'r ysbyty.

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Dafydd Hûw Craven-Jones a Morgan Jones

Dywedodd yr heddlu eu bod yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad.

Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu gerbyd Ford Ka yn y cyfnod cyn y digwyddiad, gysylltu gyda'r heddlu.

Cafodd teyrngedau eu rhoi gan deuluoedd y ddau ddyn ifanc fu farw.

Dywedodd teulu Dafydd Hûw Craven-Jones, gyrrwr y cerbyd, ei fod "yn fab, brawd, ewythr, ŵyr ac aelod ardderchog o'r teulu i bawb oedd yn ei adnabod".

Cafodd Morgan Jones ei ddisgrifio gan ei deulu fel "dyn ifanc caredig, gofalgar a chariadus yr oedden ni mor falch ohono".