Menyw wedi gadael gwesty heb dalu bil dros £800
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog gwesty o Lanelli yn dweud ei fod wedi ei “syfrdanu” ar ôl i fenyw adael y gwesty heb dalu bil o £800.
Yn ôl Paul Jenkins, perchennog gwesty’r Diplomat, fe wnaeth y fenyw dreulio tair noson rhwng 10 a 13 Mehefin yn yfed a bwyta yn y gwesty, cyn iddi adael, heb dalu bil o £802.55.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio.
Dywedodd Mr Jenkins ei fod yn credu bod y fenyw wedi defnyddio enw ffug ar ôl honni ei bod yn aros yn y gwesty fel rhan o’i gwaith.
'Diflannu heb arwydd'
Dywedodd Mr Jenkins: “Wnaeth hi gerdded allan yn y bore heb ddweud ei bod hi’n gadael.
“Roedd y glanhawyr ddim yn gwybod os oedd hi yn yr ystafell neu beidio ac unwaith i ni sylweddoli be' oedd wedi digwydd, wnaethom ni agor y drws ac roedd hi wedi mynd.
“Roedd ganddi fil o £802.”
Dywedodd Mr Jenkins fod y fenyw wedi archebu pysgod a sglodion, stêc, gwin, ac “roedd hi wedi mwynhau ei hun”.
“Ry’ ni erioed wedi cael problem fel hyn, weithiau mae rhywun yn anghofio, ond mae e’n dipyn o beth i ddelio gydag e.
“Ar ôl Covid, mae busnesau lletygarwch wedi dioddef, ac rydym yn brysur nawr ond mae o i gyd yn gwneud gwahaniaeth.
"Mae’r biliau i gyd angen eu talu.
"’Dydy e ddim yn neis, ni yn siomedig.”
Ers rhannu beth a ddigwyddodd ar gyfryngau cymdeithasol, mae Mr Jenkins yn dweud bod busnes arall yn Lloegr wedi cysylltu i ddweud eu bod nhw’n credu bod yr un fenyw wedi gadael eu gwesty nhw heb dalu.
Dywedodd: "Mae’r ymateb wedi bod yn ffantastig, ond ni dal ddim yn gwybod pwy yw hi.
"Buasai'n dda i ddod o hyd iddi ac i gael bach o’r arian yn ôl 'falle, ond rydym yn gobeithio bod hi ddim yn gwneud hyn yn rhywle arall."
Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio, ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.