Bangor: Cyhoeddi enw dynes fu farw wedi gwrthdrawiad fan Tesco

Cafodd Susan Margaret Hofsteed, 79, ei tharo gan fan ar Allt y Garth ym Mangor ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed mai Susan Margaret Hofsteed, 79, o Fangor oedd y ddynes fu farw mewn gwrthdrawiad yn y ddinas ddechrau'r wythnos.
Bu farw Ms Hofsteed wedi iddi gael ei tharo gan fan ddosbarthu archfarchnad Tesco ar Allt y Garth toc wedi 12:00 ddydd Llun.
Yn y cyfamser mae'r heddlu wedi rhyddhau gyrrwr y fan tra bod eu hymchwiliad yn parhau.
Cafodd ei arestio ar amheuaeth o yrru'n beryglus.
Wrth agor y cwest yng Nghaernarfon dywedodd y crwner, Kate Robertson, bod Ms Hofsteed - cyn-ymgynghorydd hawliau lles - yn cerdded i fyny Allt y Garth ddydd Llun 29 Medi pan wnaeth y fan ei tharo.
Am 13:12 nododd meddyg, Dr Phil Morgan, ei bod wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae canlyniad archwiliad post mortem dros dro yn nodi ei bod wedi marw o drawma difrifol i'r pen a'r ymennydd.
Cafodd y cwest ei ohirio tan ddyddiad sydd eto i'w benderfynu.
Mae'r llu wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau dashcam allai fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl