Mary Lloyd Jones yn 90: Lle y ferch ym myd celf
- Cyhoeddwyd
Mary Lloyd Jones yw un o artistiaid mwyaf Cymru.
A hithau ar drothwy ei 90 oed, dyma rai o’i hargraffiadau hi o siwrne ei gyrfa a sut enillodd hi'r 'hawl' i fod yn greadigol.
Uchelgais artist
"Dyna beth o'n i eisiau ei wneud, ond do'n i ddim yn siŵr shwt i wneud.
"Nawr mae pethau wedi newid ond pan o'n i'n fach ac yn y coleg, o'n i'n teimlo yn y lle anghywir, achos doedd ddim cefnogaeth, yn enwedig o ran celf. Doedd e ddim yn bwysig.
"Achos bod lot o lyfre'n dod i'r tŷ, o'n i'n gwybod ambyti gwahanol bethe oedd yn digwydd mewn rhannau eraill o'r byd; o'n i â diddordeb mawr mewn celf o amser cynnar iawn.
"Pan ddaeth yr amser i mi fynd i’r ysgol yn Aberystwyth, oedd y bechgyn yn gallu gwneud gwaith a bod yn greadigol, ond o'dd y merched yn gorfod gwneud rhywbeth gwahanol, a chopïo gwaith rhywun arall.
“O'n i'n mynd i weld y prifathro unwaith yr wythnos am dymor cyfan, ac yn dweud 'dwi ishe symud, dwi ishe bod yr un man â'r bechgyn'. O'n i ishe medru astudio celf. Ac yn y diwedd, rho'th e fyny ac fe ges i symud.
Lle i'r ferch?
"O'r dechrau, roedd rhaid i mi feddwl 'mae beth dwi'n ei wneud am fod yn annerbyniol, ond twt! 'Wi'n mynd i fynd 'ta beth'. O'n i'n teimlo'n gryf iawn ambyti fe. 'Wi'n credu bod 'na rywbeth styfnig yn fy mhersonoliaeth i wedi helpu!
"Ond y ffordd o'n i'n dod i fyw â'r peth oedd dim derbyn e o gwbl. O'n i ddim yn teimlo mod i'n lleiafrif o gwbl; o'n i jest yn bwrw mlaen. O'n i'n awyddus i fwynhau beth oedd yn bosib yn y coleg, a dwi ddim yn cofio unrhyw boender. Gwastraff ynni yw meddwl am bethau fel yna; meddwl am bethau cefnogol o’n i’n ei wneud.
"Nawr, dwi'n cefnogi'r ffaith fod merched yn cael gwell siawns, ac yn gwneud swyddi diddorol a chreadigol. Mae fel pe bai mwy o gefnogaeth yn digwydd – dwi ffili credu'r peth.
Artist, mam, athrawes
"Athrawes o'n i. Briodais i John yn ifanc iawn, pan o’n i'n y coleg, a ges i ddwy ferch yn fuan iawn. Ond eto i gyd, o'n i'n gobeithio y gallen i fod mewn lle lle fydden i’n gallu datblygu celf creadigol oedd yn bwrpasol i fi.
"Doedd hi ddim yn hawdd. Ond o'n i’n trial trefnu bod y merched yn gwneud rhywbeth, wedyn bob dydd yn y prynhawn o'n i'n cael bach o amser i mi. O'n i'n bod yn greadigol – 'na beth oedd yn bwysig i mi.
"O'dd hi’n freuddwyd (i ddod yn artist llawn amser) ond fe gymerodd hi amser achos bod fy ngŵr i â swydd lawn amser. Fues i'n dysgu gwahanol ddosbarthiadau a gorfod teithio iddyn nhw unwaith neu ddwywaith yr wythnos. Dyna beth oedd bywyd; os o’n i eisiau gwneud beth o’n i eisiau ei wneud, doedd dim dewis.
"Yn sicr roedd rhaid i chi gael hyder i deimlo 'dwi’n credu mai dyna dwi i fod i’w 'neud a dwi’n medru cario mlaen'. Y tro cynta teimlais i hyn yn llwyr oedd pan ges i gyfle i hala amser yn Iwerddon. Roedd diddordeb gyda fi i weld sut roedd pobl fel fi yn cael eu trin, a beth oedd safle celf yn Iwerddon a'r gefnogaeth. Rhoddodd e gefnogaeth i mi achos roedd pawb yn cymryd celf o ddifri'.
"Pan ddes i nôl, nes i feddwl 'mae’n rhaid i fi 'neud rhywbeth'. 'Nes i ddeud mod i am ymddeol, ac o'dd y bobl yn y coleg yn meddwl mod i off fy mhen. Dyna beth 'nes i. Dyna’r penderfyniad.
Dylanwad y byd o'i chwmpas
"O'dd gen i ddiddordeb arbennig mewn gweld beth oedd pobl eraill yn ei wneud a gweld celf yn cael ei greu mewn gwledydd eraill, ac o'dd gen i ddiddordeb mewn celf sydd lawer yn hŷn; cannoedd neu filoedd o flynyddoedd yn ôl. Aethon ni i deithio i wahanol wledydd; bob amser yn edrych mas am gelf oedd yn cael ei greu.
"Ond pan o'n i wedi penderfynu mai dyma beth o'n i am ei 'neud, o'dd e gyd i wneud gyda lle o'n i pan o'n i'n fach yn Pontarfynach. O'n i'n treulio lot o amser yn cerdded o gwmpas y pentref, sawl milltir ar y tro ac o'n i'n dechrau edrych o gwmpas.
"Mae'r ffaith mod i wedi gorfod diddori fy hun, a Cwm Rheidol, yr ardal lle ges i ngeni, lle fues i'n cerdded gymaint – mae hwnna wedi creu rhywbeth arbennig iawn, rhyw fath o freuddwydio, neu ffurfiau arbennig sy'n bart o ble dwi'n dod, a dwi'n credu bod cysylltiad gyda lle ges i ngeni a lle nes i dreulio lot o amser yn bwysig.
"'Wi'n cael pleser o edrych ar beth dwi wedi ei wneud ac ychwanegu rhywbeth, ac mae e'n bart o'r broses o greu. Mae'n tyfu lan i fod yn bart o beth dwi'n mwynhau ei wneud; wrth bo' fi'n mynd am dro, mynd i weld y wlad, edrych mas drwy'r ffenest a gweld beth sydd, mae hwnna i gyd yn creu rhywbeth.
Dilyn greddf greadigol
"Mae lot o'r pethau dwi'n eu gwneud yn reddfol. Mae'n amhosib i gael rheolaeth. Pethau sy'n diddori fi a 'wi jest yn mynd ar eu hôl nhw.
"'Wi'n credu fod bod yn greadigol yn gyffrous. 'Sen i'n licio 'se mwy o bobl yn cael posibiliadau i fod yn gyffrous; mae rhywbeth arbennig yn dod mas ohono fe.
"(Heddiw) mae lot mwy o bobl yn medru cael bywoliaeth drwy ddysgu bod yn greadigol, a dwi'n meddwl fod hynny yn arbennig o bwysig. Mae'r traddodiad sy' 'da ni... mae rhoi llais i hwnna hefyd yn bwysig.
"O'i gymharu â sut oedd pethau pan o'n i'n ifanc iawn, mae pethau wedi gwella.
"Dwi ddim yn gwneud lot nawr; mae gen i gymaint o waith, mae'r peth yn embaras! Ond dwi jest yn cario 'mlaen a gwneud tipyn bach...
"Dwi'n credu mai'r unig beth alla i ei ddweud yn onest yw bo' fi yn dilyn y reddf sy' gen i, a bo' fi'n meddwl am beth sy'n mynd i greu mwynhad i fi.
"A dwi am wneud hynny, 'ta beth, os galla i, hyd yn oed dim ond tamed bach."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2017