Astroffotograffydd o fri, 34, wedi marw yn Nhwrci

Alyn WallaceFfynhonnell y llun, Alyn Wallace
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd Alyn Wallace drwy gymryd lluniau o Fannau Brycheiniog

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i astroffotograffydd o Gymru a fu farw yn Nhwrci.

Roedd Alyn Wallace, 34, o Bontypridd yn cael ei adnabod fel un o astroffotograffwyr gorau'r byd gyda'i luniau syfrdanol o awyr y nos.

Mae degau o filoedd o bobl yn ei ddilyn ar Youtube ac ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol ble roedd o'n arddangos ei dechnegau a'i offer.

Fe ddechreuodd drwy gymryd lluniau o Fannau Brycheiniog a Chwm Elan cyn rhoi orau i'w swydd i fod yn astroffotograffydd llawn amser.

Fe drafododd ei waith mewn rhaglen ddogfen ar BBC BBC Cymru yn 2019, Wales: Land of the Wild.

'Talent wyrthiol'

Roedd wedi symud i Dwrci ble bu farw, yn ôl ei rieni, ar ôl salwch byr.

Mewn neges ar ei dudalen Instagram, dywedon nhw bod eu mab â chyflwr flaenorol a oedd wedi gwanhau ei system imiwnedd a bu farw ar ôl i haint coden fustl (gall bladder) ledu’n gyflym.

Maen nhw'n cyfeirio ato fel "talent wyrthiol" ac yn crybwyll ei lysenw, Wally, wrth gadarnhau ei fod wedi marw ar 28 Mawrth.

"Does dim geiriau i ddisgrifio ein colled a'r boen yr ydym ynddo.

Ffynhonnell y llun, Plimsoll Production / Wales: Land of the wild BBC Cymru Wales
Disgrifiad o’r llun,

Alyn Wallace yn sgwrsio yn y rhaglen ddogfen yn ystod sesiwn tynnu lluniau dros nos

"Mae gwybod ei fod wedi cael cyfle i gyffwrdd llawer o fywydau trwy gyfryngau cymdeithasol, dysgu, ysbrydoli a chysylltu â chymaint o eneidiau ledled y byd yn rhoi gwên gysur i ni gyd.

"Mae'n dal yn rhy gynnar i wneud unrhyw benderfyniadau. Mae'r golled anffodus hon wedi digwydd mewn gwlad dramor. Rydyn ni'n credu y byddwch chi'n deall. Mae'n anodd dirnad maint syfrdanol ei sffêr dylanwad i ni'r boomers."

Gan gymdymdeimlo, dywedodd Tîm Achub Mynydd Bannau Brycheiniog: "Daeth Alyn o hyd i lawer o ysbrydoliaeth yn awyr dywyll Bannau Brycheiniog ac fe gododd arian yr oedd mawr ei angen ar gyfer y tîm."

'Edmygedd a pharch byd-eang'

Dywedodd y ffotograffydd Gareth Danks: "Clywsom y newyddion erchyll y ddoe fod Alyn Wallace wedi marw a dydw i ddim wedi stopio meddwl amdano ers hynny!

"Mae'n syfrdanol faint o bobl ledled y byd mae Alyn wedi'u hysbrydoli trwy ei sianel YouTube a'i gymuned astroffotograffiaeth."

Roedd Mr Wallace, meddai, yn haeddu'r "edmygedd a pharch byd-eang" a ennillodd trwy ei waith ac ei fod o'n "hollol arswydus o'i ddawn".

'Bydd ei seren yn disgleirio'

Dywedodd y ffotograffydd Larryn Rae: "Roedd Alyn yn astroffotograffydd byd-enwog a gipiodd ddelweddau syfrdanol ac a roddodd yn ôl yn ddiflino i’r gymuned astro.

"Fydd dy gyngor, dy ysbrydoliaeth a dy ymroddiad i fynd ar drywydd awyr y nos byth yn cael eu hanghofio gan lawer ohonom ledled y byd."

Yn ôl ffotograffydd arall, Dean Nixon, roedd Mr Wallace "yn un o’r astroffotograffwyr pwysicaf, mwyaf ysbrydoledig a hoffus yn y byd, ac roedd yn adnabyddus iawn nid yn unig am ei ddelweddau arobryn, ond hefyd am ei ddysgeidiaeth.

"Rhannodd ei wybodaeth yn rhydd gyda chyflwyniadau rheolaidd, hynod addysgiadol a hygyrch ar YouTube. Bydd ei seren yn disgleirio ymlaen."

Pynciau cysylltiedig