Rhybudd dros e-sgwteri fel anrhegion allai dorri'r gyfraith
- Cyhoeddwyd
Mae 'na rybudd i rieni beidio â phrynu sgwteri trydan fel anrhegion Nadolig eleni rhag ofn eu bod nhw'n torri'r gyfraith, yn ôl yr heddlu.
Does dim hawl defnyddio e-sgwteri ar ffyrdd cyhoeddus, palmentydd na pharciau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud wrth BBC Cymru Fyw y gallai pobl golli anrhegion werth cannoedd o bunnau wrth i'r heddlu gymryd sgwteri trydan sy'n cael eu defnyddio'n anghyfreithlon.
Daw wrth i arbenigwr diogelwch ffyrdd ddweud bod angen i Lywodraeth y DU gyflymu'r broses o ddeddfu ar ddefnydd e-sgwteri a chadarnhau'r rheolau.
Yn ôl yr Arolygydd Celt Thomas, mae angen deall y risgiau sy'n dod gyda defnyddio sgwteri.
"Mae e-sgwteri yn rhywbeth falle sy'n sbort i brynu i'r plant ond mae angen i bobl fod yn ymwybodol a bod yn siŵr bod gyda nhw rhywle i'w defnyddio nhw, sef tir preifat."
Ar Heol Eglwys Fair yng Nghaerdydd ar adegau fe welwch chi bobl yn gwibio'n ôl a 'mlan ar eu sgwters trydan.
Ond mae hi'n anghyfreithlon gwneud hynny ar ffyrdd tebyg i'r un yma, yn ogystal â llwybrau cerdded a pharciau cyhoeddus yn y DU.
Yr unig le mae hawl i'w defnyddio nhw yw ar dir preifat gyda chaniatâd perchennog y tir.
11 wedi marw yn 2022
Os yw pobl yn cael eu dal yn defnyddio sgwteri trydan yn anghyfreithlon, fe allen nhw ddweud hwyl fawr i anrhegion drud iawn, yn ôl yr Arolygydd Celt Thomas.
"Y trwbl yw os ma' rhywun yn cael eu dal, mae'r heddlu yn gallu mynd a'r e-sgwter wrth y person, ac oherwydd bod pobl methu cael yswiriant ar gyfer e-sgwteri dy'n nhw ddim yn gallu eu cael nhw nôl o'r heddlu. Felly mae pobl yn gallu colli lot o arian."
"Nôl yn yr orsaf gyda ni, ma 'na ddau e-sgwter yn barod i fynd bant i'w dinistrio, a dyw'r perchennog methu cal nhw nôl."
Mae'r cerbydau yma wedi dod yn fwy poblogaidd dros y pedair blynedd ddiwethaf - ond yn ôl yr arbenigwr ar ddiogelwch ffyrdd, Tom Jones, maen hen bryd i'r gyfraith ddal lan gyda'r dechnoleg.
"Cafodd 11 o ddefnyddwyr sgwteri trydan eu lladd yn 2022 yn ôl yr adran drafnidiaeth. Cafodd 1,500 o bobl eu hanafu.
"Felly mae damweiniau yn digwydd yn defnyddio'r cerbydau yma ar y ffyrdd.
"Dwi'n synnu nad oes 'na ddeddfwriaeth newydd wedi dod yn gyflymach. Dwi'n meddwl y dylai fod 'na agwedd fwy llym. Ond dwi'n credu bod yr heddlu yn meddwl byddai yna newid [yn y gyfraith] yn gynt."
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn gweithio gyda chydweithwyr i fynd i'r afael â materion yn ymwneud ag e-sgwteri anghyfreithlon.
"Mae e-sgwteri preifat yn dal yn anghyfreithlon i'w defnyddio ar ffyrdd cyhoeddus a gall y rhai sy'n torri'r gyfraith wynebu dirwyon ac erlyniad troseddol," meddai llefarydd.
"Dim ond mewn ardaloedd treialu sy'n cael eu rhedeg gan y Llywodraeth y mae modd defnyddio e-sgwteri rhent."