Teulu'n hedfan i Sbaen am 'atebion' i farwolaeth eu mab

Nathan OsmanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Nathan Osman tra ar wyliau gyda'i ffrindiau yn Benidorm ym mis Medi

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn o Bontypridd fu farw ar wyliau yn Benidorm yn hedfan i Sbaen i geisio cael atebion i gwestiynau am ei farwolaeth.

Cafodd corff Nathan Osman, oedd yn 30 oed ac yn dad i bedwar o blant, ei ganfod ar waelod clogwyn ger Benidorm lai na 24 awr wedi iddo gyrraedd ar wyliau gyda'i ffrindiau ym mis Medi.

Mae ei deulu'n dweud bod ymgais wedi bod i ddefnyddio ei gerdyn banc y diwrnod canlynol, ac yn poeni ei fod wedi dod i gyswllt â phobl eraill cyn ei farwolaeth.

Dydyn nhw ddim yn teimlo bod ymchwiliad yr awdurdodau i'r farwolaeth wedi bod yn ddigonol.

'Dim rheswm i fynd lan yna'

Mae brawd a chwaer Nathan, Lee ac Alannah, nawr yn hedfan i Benidorm i geisio siarad gyda'r heddlu yn uniongyrchol am yr ymchwiliad.

"Dydyn nhw ddim yn gwrando arno' ni o gwbl," meddai Lee.

"Does dim ymchwiliad wedi bod, ni dal yn ceisio ymladd am atebion."

Fe aeth Nathan Osman ar daith munud olaf gyda'i ffrindiau i Benidorm ym mis Medi 2024.

Ar ôl cyrraedd ar 27 Medi a threulio'r diwrnod gyda nhw, fe ddywedodd y byddai'n cerdded yn ôl i'r gwesty ar ei ben ei hun oherwydd ei fod wedi blino.

Nathan a'i blantFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Nathan Osman, 30, yn dad i bedwar o blant

Y bore canlynol doedd dim arwydd ei fod wedi cysgu yn ei wely, ac yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw cafodd ei gorff ei ganfod ar waelod clogwyn, gan blismon oddi ar ddyletswydd oedd ar feic dŵr.

Dyw Lee Evans ddim yn credu bod Nathan wedi cerdded i'r lleoliad anghysbell, oedd y cyfeiriad gwahanol i'w westy, ar ei ben ei hun.

"Mae'n awr o gerdded yn y tywyllwch i gyrraedd fan 'na," meddai.

"Byddech chi'n edrych lan a gweld bod dim byd yna – dim rheswm i fynd yna.

"Ni'n credu'n gryf bod rhywun wedi cymryd e lan yna, un ai mewn tacsi neu wedi ei orfodi.

"Ac mae rhywbeth wedi digwydd i achosi iddo fe gael ei ganfod ble wnaeth e."

'Ni'n haeddu atebion'

Y diwrnod wedi ei farwolaeth, mae ei deulu'n dweud bod ymgais wedi bod i ddefnyddio cerdyn banc Nathan, ond na wnaeth yr awdurdodau ymchwilio i hynny ymhellach.

Ers hynny mae Lee ac Alannah wedi bod yn ceisio dilyn symudiadau Nathan y noson honno, ac yn dweud ei fod wedi gwneud galwad fideo i un o'i ffrindiau cyn i'w fatri ffôn farw.

Wrth wneud eu hymchwil eu hunain, fe wnaethon nhw weld Nathan ar luniau CCTV ar hyd y promenâd, lle nad oedd yn ymddangos yn feddw iawn.

Maen nhw wedi dod o hyd i leoliadau eraill gyda CCTV, ond mae'r perchnogion yn gwrthod rhoi'r lluniau iddyn nhw heb gais gan awdurdodau Sbaen.

Lee, brawd Nathan
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Lee, brawd Nathan, yn teithio i Sbaen gyda'i chwaer Alannah i geisio cael atebion gan yr awdurdodau

Yn ôl y teulu maen nhw wedi ceisio droeon i gael gwybod sut mae'r ymchwiliad yn dod yn ei flaen, ond yn cael dim ymateb gan awdurdodau Sbaen.

Fe wnaethon nhw dderbyn ffeil heddlu'n ddiweddar, oedd yn "wag" meddai Alannah ac yn dweud bod yr achos wedi ei gau.

Yn ôl mam Nathan, Elizabeth, ni chafodd "unrhyw empathi" ei ddangos iddyn nhw gan heddlu Sbaen yn dilyn y farwolaeth, ac fe gawson nhw eu "trin fel cŵn".

Dywedodd Elizabeth ei bod hi wedi gorfod adnabod ei mab drwy lun o datŵ ar ei frest.

Mae peidio gwybod sut y daeth i fod mewn lleoliad mor anghysbell yn artaith, meddai.

Jonathan ac Elizabeth, rhieni Nathan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jonathan ac Elizabeth, rhieni Nathan, yn dweud eu bod yn byw mewn "hunllef" bob dydd heb atebion am amgylchiadau ei farwolaeth

"Mae ein bachgen ni yn haeddu atebion ac rydyn ni fel teulu yn haeddu atebion," meddai.

"Doedd Nathan ddim yn feddwyn oedd yn mynd mas ac anghofio am bopeth. Roedd e o gwmpas ei bethau.

"Mae peidio gwybod am yr awr neu ddwy olaf yna cyn iddo fe farw yn bwyta ni o'r tu mewn bob dydd. O pan ni'n deffro i pryd ni'n mynd i'r gwely, ni'n byw'r hunllef yma."

Dywedodd tad Nathan, Jonathan: "Dydyn nhw heb wneud unrhyw beth o gwbl. Maen nhw jyst wedi diystyru ei fywyd e ym mhob ffordd."

'Byddwn ni'n parhau'

Mae'r teulu yn dweud bod rhaid iddyn nhw nawr deithio i Benidorm oherwydd eu rhwystredigaeth, ac i roi'r wybodaeth maen nhw eu hunain wedi ei gasglu am oriau olaf Nathan i'r heddlu.

Mae awdurdodau Sbaen wedi cytuno i'w cyfarfod nhw er mwyn trafod eu pryderon.

"Byddwn ni'n parhau tan ry'n ni'n ffeindio mas pam, a sut, aeth e lan yna," meddai Lee.

Dyw heddlu Benidorm heb ymateb i gais am sylw.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Dramor Llywodraeth y DU: "Rydym yn cynnig cefnogaeth i deulu dyn o Brydain fu farw yn Sbaen, ac mewn cyswllt gyda'r awdurdodau lleol."

Pynciau cysylltiedig