Dyn wedi marw tra'n gweithio ar fferm yn Sir Gâr

Bu farw'r dyn ar fferm yn ardal Llanpumsaint ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 63 oed wedi marw mewn digwyddiad ar fferm yn Sir Gâr.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, bu farw'r dyn fore Llun, 21 Ebrill, tra'n gweithio ar y fferm yn ardal Llanpumsaint.
Fe ddywedon nhw fod y Gweithgor Iechyd a Diogelwch a'r crwner wedi cael gwybod am y digwyddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gweithgor Iechyd a Diogelwch eu bod yn "ymwybodol o'r digwyddiad ac yn cefnogi Heddlu Dyfed-Powys".
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, sy'n cynrychioli Cynwyl Elfed ar Gyngor Sir Caerfyrddin, ei fod yn "cydymdeimlo yn fawr gyda'r teulu a'r sefyllfa".
"Mae hon yn ddamwain drist iawn ac yn glatsien i'r gymuned," meddai.