Sioe Môn yn diolch i gefnogwyr drwy beidio codi'r pris mynediad

Sioe Môn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sioe yn cael ei chynnal ddydd Mawrth a Mercher

  • Cyhoeddwyd

Bydd mwy o gystadleuwyr a stondinwyr yn Sioe Amaethyddol Môn eleni ar ôl i'r trefnwyr benderfynu yn erbyn codi'r pris mynediad.

Mae cadw'r pris yn £20 ymlaen llaw a £22 ar y giât "yn ffordd o ddangos ein gwerthfawrogiad i bawb am gefnogi," meddai Swyddog Datblygu’r Sioe, Cain Angharad Owen.

Maen nhw wrth eu boddau bod nifer y cystadleuwyr a stondinwyr i fyny ar y blynyddoedd diwethaf.

"Dwi’n meddwl bod y sioeau i gyd wedi stryglo dros y ddwy flynedd diwethaf yn sgil Covid ond mae'n edrych fel bod pobl nôl mewn pethau a mae'n beth positif iawn i weld cynnydd yn yr adrannau," meddai Cain.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cadw'r prisiau yr un fath "yn ffordd o ddangos ein gwerthfawrogiad i bawb am gefnogi," meddai Cain Angharad Owen

Mae 'na fuddsoddi helaeth wedi bod ar y maes hefyd yn ôl Cadeirydd Cyngor y Sioe, Dr Non Gwenllian Williams.

Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn dywedodd eu bod wedi gwrando ar yr adborth a gafwyd y llynedd ac wedi cyflwyno gwelliannau yn sgil hynny.

"'Dan ni wedi buddsoddi andros o lot o arian yn gweithredu ar y datblygiadau a gwella isadeiledd y maes.

"'Dan ni wedi uwchraddio ein system wi-fi yn dilyn adborth gan y stondinau masnach ac wedi tarmacio un o brif ffyrdd y maes er mwyn gwella adnoddau yma," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae "andros o lot o arian" wedi ei fuddsoddi er mwyn gwella seilwaith y maes, medd Dr Non Gwenllian Williams

Mae'r system draffig wedi newid hefyd, meddai, er mwyn ceisio gwella llif trafnidiaeth a sawl elfen arall – fel cornel adloniant Y Cowt – wedi eu datblygu.

Roedd hi'n tanlinellu pa mor bwysig ydy cyfraniad y gwirfoddolwyr a noddwyr i lwyddiant y digwyddiad sy'n cael ei gynnal dros gyfnod o ddeuddydd ar y maes ym Mona.

Disgrifiad o’r llun,

John Vernon Jones yw llywydd y Sioe eleni

Un fu â chysylltiad â'r Primin ers degawdau – John Vernon Jones o ardal Llansadwrn ger Biwmares – ydy llywydd y Sioe eleni.

Mae'n dweud bod cael gwneud y swydd hon yn fraint o'r mwyaf.

"Mae'n teulu ni wedi bod ynghlwm â'r sioe ac wedi gweld y sioe yn datblygu ers blynyddoedd," dywedodd.

"Mae 'na gymaint o amrywiaeth yn y sioe – mae 'na rwbath yma i bawb, ddim jyst ffermwyr.

"Mae pobl yn medru gweld sut mae amaeth yn gweithio – sut 'dan ni'n trin ein hanifeiliaid a'r cynnyrch sydd ar gael. A'r ardal gneifio - mae pobl wrth eu boddau hefo petha' fel yna."

Mae'r sioe yn cael ei chynnal ddydd Mawrth a ddydd Mercher, 13 a 14 Awst.

Pynciau cysylltiedig