Miloedd yng Nghaerfyrddin i alw am annibyniaeth i Gymru

Mali Phillips
  • Cyhoeddwyd

Roedd miloedd o bobl mewn gorymdaith yng Nghaerfyrddin er mwyn galw am annibyniaeth i Gymru.

YesCymru a Pawb Dan Un Faner Cymru (AUOBCymru) drefnodd y digwyddiad gan ddweud mai'r bwriad yw "adeiladu ar fomentwm gorymdeithiau blaenorol ledled Cymru".

Dywedodd cadeirydd Yes Cymru, Phill Griffiths: “Dyw e ddim yn brotest, mae’n fwy o ddathliad o le ni wedi cyrraedd.”

Mae BBC Cymru wedi cysylltu â'r pleidiau gwleidyddol am ymateb.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd miloedd o bobl yn yr orymdaith yng Nghaerfyrddin

Hon oedd yr orymdaith gyntaf i’w chynnal yn hen sir Dyfed, yn y de-orllewin.

Ers 2019, mae digwyddiadau tebyg wedi eu cynnal yng Nghaernarfon, Merthyr, Wrecsam, Bangor, Abertawe a Chaerdydd, gyda miloedd yn gorymdeithio dros Gymru annibynnol.

Dywedodd Dylan Phillips, Cadeirydd YesCymru Caerfyrddin: "Mae ysbryd rhyddid yn gwau drwy hanes y de orllewin fel edefyn arian. Cofiwn am Gwenllïan, ac am Ferched Beca.

Ychwanegodd mai bwriad y digwyddiad yw "nid i edrych nôl, ond i edrych mlaen ac i alw am Gymru decach, Cymru gyfoethocach, Cymru rydd”.

Disgrifiad o’r llun,

Phill Griffiths, cadeirydd Yes Cymru

Dywedodd cadeirydd Yes Cymru, Phill Griffiths: “Dyw e ddim yn brotest mae’n fwy o ddathliad o le ni wedi cyrraedd.”

“Mae gweld y polau piniwn diweddar yn dangos bod mwy o bobl ifanc o blaid annibyniaeth... mae hwnna ond yn gallu bod yn rhywbeth da a gallwn ni adeiladu arno ar gyfer y dyfodol.

"Ond yn sicr mae angen cael mwy o drafodaethau nawr.

“Ry'n ni fel mudiad yn keen i holi gwleidyddion ar le maen nhw’n sefyll ar y pwnc pwysig yma. Dwi’n meddwl yn sicr bydde hwnna’n helpu pobl gwneud penderfyniadau call o ran pwy maen nhw am bleidleisio amdano.”

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Esyllt Rosser (chwith) a Celyn Thomas wedi teithio o Abertawe i ymuno â'r orymdaith

Roedd Esyllt Rosser, 24 a Celyn Thomas, 25 wedi teithio o Abertawe i ymuno â'r orymdaith.

Dywedodd Esyllt: “Fi’n meddwl bod lot o bolisïau a’r llywodraeth ddim yn clywed Cymru.

"Felly dwi’n meddwl mae’n bwysig i ni fel pobl ifanc yn dangos bod gennym ni ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth.”

Un oedd yn yr orymdaith oedd Cefin Campbell AS o Blaid Cymru.

Dywedodd bod "annibyniaeth i Gymru yn rhan o DNA Plaid Cymru - dyna yw ein nod hir dymor ni, ond wrth gwrs mae’n rhaid i ni sylweddoli bod rhaid i ni fynd â phobl gyda ni ar hyd y daith honno, ac yn y cyfamser mae’n rhaid i ni sicrhau mwy o ddatganoli i Gymru.

"Plismona, cyfiawnder a threfn, darlledu, y gwasanaeth lles, ystâd y Goron. Ond hefyd wrth gwrs mae'n rhaid i ni frwydro i gael gwell setliad ariannol i Gymru.”

Un arall oedd yno oedd Beth Winter o'r Blaid Lafur.

Dywedodd hi: “Mae tri opsiwn gyda ni - naill ai cadw datganoli fel mae e, neu ehangu fe, ffederaliaeth neu annibyniaeth.

"I fi mae'n rhaid i bob opsiwn bod ar y ford. Mae’n rhaid i’r blaid Lafur yn San Steffan wrando ar bobl Cymru.”

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig nad oedden nhw am wneud sylw ac mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Rydyn ni'n credu mewn ffederaliaeth a datganoli, dydyn ni ddim yn credu mewn creu rhagor o rwystrau a ffiniau.

"Byddwn yn parhau i wthio am ragor o bwerau i Gymru, gan roi llais i gymunedau lleol."

Pynciau cysylltiedig