Miloedd yn gorymdeithio i alw am annibyniaeth i Gymru

Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan YesCymru a AUOB Cymru yn y Barri ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae miloedd o bobl wedi bod yn gorymdeithio i alw am annibyniaeth i Gymru.
Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan YesCymru a AUOB Cymru yn y Barri ddydd Sadwrn.
Mae Heddlu De Cymru wedi amcangyfrif bod rhwng 6,000 a 7,000 o bobl yn rhan o'r orymdaith.
Dywedodd Phyl Griffiths, Cadeirydd YesCymru bod y digwyddiad yn "adlewyrchu'r teimlad ar draws Cymru."

Mae Heddlu De Cymru wedi amcangyfrif bod rhwng 6,000 a 7,000 o bobl yn rhan o'r orymdaith
Ers 2019 mae miloedd wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau tebyg ar draws Cymru gan gynnwys yng Nghaerdydd, Caerfyrddin, Bangor, Abertawe, Wrecsam a Merthyr Tudful.
Wrth siarad yn ystod y digwyddiad dywedodd Leanne Wood cyn-arweinydd Plaid Cymru ei bod hi yn "hen bryd rhoi terfyn ar ein dibyniaeth."
Ychwanegodd: "Mae gennym gyfle i adeiladu dewis amgen yn lle'r model economaidd aflwyddiannus sy'n llyncu adnoddau er elw a budd Dinas Llundain a'r corfforaethau mawr, gan adael briwsion i weithwyr a chymunedau Cymru."
'Pobl yn barod am newid'
Dywedodd Cadeirydd YesCymru, Phyl Griffiths bod "pobl yn barod am newid, ac nid yw annibyniaeth bellach yn syniad ymylol. Mae'n ymateb difrifol a llawn gobaith i system sydd wedi methu."
"Mae cefnogaeth yn cynyddu ymhlith y genhedlaeth iau yn arbennig," meddai, gan ychwanegu "maen nhw wedi cael llond bol o glywed nad yw Cymru'n ddigon mawr, nac yn ddigon cyfoethog."
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd23 Medi 2023
- Cyhoeddwyd20 Mai 2023
Yn ystod y digwyddiad cafwyd perfformiad byw gan Emma Winter, sydd wedi ymddangos ar Y Llais ar S4C.
Roedd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth hefyd yn yr orymdaith. Dywedodd bod arolygon diweddar am annibyniaeth yn symud i "gyfeiriad positif."
Yn ôl Kiera Marshall sydd yn ymgyrchydd 27 oed wnaeth deithio i dre'r Barri o Gaerdydd: "Ni yw'r genhedlaeth sy'n dioddef fwyaf – ond ni hefyd yw'r genhedlaeth a fydd yn newid pethau. Rwy'n edrych ymlaen at sefyll yma eto, nid mewn protest, ond i ddathlu Cymru rydd a theg. "
Dywedodd Tessa Marshall o Blaid Werth Cymru y "gall Cymru Annibynnol sefyll dros blant, sicrhau bod cartrefi'n gynnes ac yn ddiogel, a darparu dechrau teg mewn bywyd."