Nyrsys Cymru'n credu nad yw codiad cyflog o 5.5% yn ddigon

Nyrsys yn protestio y tu allan i Ysbyty Gwynedd yn 2023
Disgrifiad o’r llun,

Nyrsys yn protestio y tu allan i Ysbyty Gwynedd yn 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae nyrsys yng Nghymru wedi pleidleisio o blaid gwrthod codiad cyflog Llywodraeth Cymru o 5.5%, medd eu hundeb.

Dywedodd 72% o aelodau Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) yng Nghymru a bleidleisiodd nad oedd y cynnig yn ddigonol.

Dywedodd pennaeth yr RCN yng Nghymru fod aelodau wedi "siarad yn uchel ac yn glir" ac nad yw'r codiad cyflog yn mynd i'r afael â "blynyddoedd o beidio cael eu talu'n iawn".

Nid pleidlais ar gyfer gweithredu diwydiannol oedd hon - a bydd nyrsys yn parhau i dderbyn codiad cyflog wedi'i ôl-ddyddio i fis Ebrill ym mis Tachwedd.

Cafodd y cynnig o godiad cyflog uwchlaw chwyddiant ei gyhoeddi gan Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, ar 10 Medi, ac mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi derbyn argymhelliad amryw o gyrff adolygu cyflogau annibynnol "yn llawn".

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cynnig o godiad cyflog uwchlaw chwyddiant ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog Eluned Morgan fis Medi

Roedd y codiadau cyflog ar gyfer 2024/25 yn cynnwys:

  • 5.5% i nyrsys a staff eraill y GIG fel parafeddygon sydd ar gontractau “Agenda Newid y GIG”;

  • 5.5% i athrawon;

  • 6% i feddygon a deintyddion, gyda £1,000 ychwanegol ar gyfer meddygon iau.

Daw’r bleidlais yng Nghymru wedi pleidlais debyg gan aelodau’r RCN yn Lloegr ym mis Medi, a ddywedodd fod cynnig Llywodraeth y DU o godiad cyflog o 5.5% i nyrsys yn annigonol.

Doedd y naill bleidlais na'r llall yn bleidlais ar gyfer gweithredu diwydiannol - yn hytrach y nod oedd gofyn barn nyrsys.

Mae’r RCN wedi galw ar yr Ysgrifennydd Iechyd i drafod ymhellach y "tandaliad hanesyddol” y maen nhw’n credu y mae nyrsys wedi’i dderbyn.

'Ddim yn cyfateb i natur hollbwysig y gwaith'

Dywedodd Helen Whyley, cyfarwyddwr gweithredol RCN Cymru: “Mae ein haelodau wedi siarad yn uchel ac yn glir: mae staff nyrsio yng Nghymru yn gwybod eu gwerth.

"Ar ôl blynyddoedd o beidio â chael eu talu'n ddigonol dyw'r codiad cyflog hwn ddim yn cyfateb i natur hollbwysig eu gwaith a'r sgiliau helaeth y maent yn eu cyflwyno i'r GIG.

“Gyda’r GIG yng Nghymru mewn cyflwr bregus, mae’n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i werthfawrogi staff nyrsio fel bod mwy yn cael eu recriwtio ac yn aros yn y swydd - fe fydd hyn, yn ei dro, yn gwella gofal cleifion.

Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn galw ar yr Ysgrifennydd Iechyd a Gofal i gymryd rhan mewn trafodaethau brys ar y "tandaliad hanesyddol” a wynebir gan nyrsys yng Nghymru.

"Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gydnabod bod cyflog teg yn hanfodol i gynnal y gweithlu hanfodol hwn."

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb.

Yr wythnos ddiwethaf pleidleisiodd aelodau Cymdeithas Radiograffwyr Cymru o blaid derbyn codiad cyflog y llywodraeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn gwerthfawrogi gweithlu nyrsio Cymru yn fawr, sy’n gwneud cymaint i ofalu am bobl a darparu gofal sy’n achub bywydau ac sy’n newid bywydau, yn aml mewn amgylchiadau o bwysau mawr.

“Rydym wedi derbyn argymhellion y corff adolygu cyflogau annibynnol ar gyfer staff Agenda Newid y GIG yn llawn, ac yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar sut i fwrw ymlaen â’r argymhelliad ar strwythurau tâl.

“Rydym yn gwybod bod cadw ein gweithlu presennol yr un mor bwysig â recriwtio staff newydd, ac rydym hefyd wedi cynnal ein cyllideb addysg a hyfforddiant ar £281m eleni.

“Er gwaethaf y pwysau digynsail ar ein cyllideb, mae’r niferoedd uchaf erioed o bobl yn cael eu cyflogi gan y GIG.

“Rydym yn parhau i weithio gyda chyflogwyr ac undebau i ddarparu’r amgylchedd gwaith a’r amodau y mae ein staff GIG yn eu haeddu ac mae angen iddynt barhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru.”