Cyflog gweithwyr sector cyhoeddus i godi rhwng 5 a 6%
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi codiadau cyflog uwch na chwyddiant i weithwyr y sector gyhoeddus.
Bydd nyrsys, staff eraill y gwasanaeth iechyd ac athrawon yn derbyn cynnydd o 5.5% a bydd meddygon a deintyddion yn derbyn 6% - wedi'i ôl-ddyddio i fis Ebrill yn unol â Lloegr.
Mae swyddogion yn hyderus y byddan nhw'n cael mwy o arian gan Lywodraeth y DU i dalu am y cynnydd ond maen nhw'n dweud ar hyn o bryd ei bod yn amhosib dweud faint o arian ychwanegol fydd ei angen.
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan fod angen i weithwyr y sector gyhoeddus "gael eu gwobrwyo'n deg am eu gwaith hanfodol".
"Mae pobl ledled Cymru wedi dweud wrthon ni dros yr haf mai gweithwyr y sector cyhoeddus yw asgwrn cefn y gwasanaethau ry'n ni gyd yn dibynnu arnyn nhw – o'r nyrsys yn ein Gwasanaeth Iechyd i athrawon mewn ystafelloedd dosbarth ar hyd a lled Cymru," meddai Ms Morgan mewn datganiad.
"Mae'r dyfarniadau cyflog hyn yn arwydd o'n gwerthfawrogiad a'n parch tuag at eu gwaith caled.
"Ond mae'r cyhoedd hefyd wedi pwysleisio eu bod eisiau i wasanaethau cyhoeddus wella – yn enwedig yn y Gwasanaeth Iechyd ac addysg.
"Byddwn ni'n gweithio gyda'r gwasanaethau hyn i weithredu ar yr hyn ddywedodd pobl wrthon ni yn yr ymarfer gwrando dros yr haf."
Daw'r cyhoeddiad wedi i Lywodraeth Cymru dderbyn yr argymhellion cyflog gan gyrff adolygu cyflogau annibynnol yn llawn ar gyfer 2024-25.
Bydd meddygon iau yn cael £1,000 ychwanegol ac fe fydd gweithwyr cyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Banc Datblygu Cymru yn derbyn cynnydd o 5% ar gyfartaledd.
Dywed swyddogion bod y cynnydd sy'n cael ei argymell i athrawon yn unol â'r hyn sy'n cael ei gynnig yn Lloegr.
Bydd hi'n rhaid i'r codiadau cyflog gael sêl bendith undebau. Fe fydd ymgynghoriad pedair wythnos yn dechrau'n syth ar gyflogau athrawon.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Rebecca Evans: "Ry'n ni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gydag undebau llafur i sicrhau setliadau cyflog teg sy'n fforddiadwy ond sydd hefyd yn cydnabod cyfraniad enfawr gweithwyr y sector cyhoeddus."
Mae cyrff adolygu cyflogau annibynnol yn gwneud argymhellion i lywodraethau ynglŷn â chyflogau.
Nid yw rhannau eraill o'r sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys staff llywodraeth leol, gwasanaethau tân ac achub a gofal cymdeithasol, yn cael eu cynnwys gan y cyrff adolygu cyflogau annibynnol ac ymdrinnir â nhw drwy broses ar wahân.
Ymateb yr undebau
Croeso gofalus sydd i'r newydd gan undeb y prifathrawon, NAHT Cymru.
"Tra'n bo' ni'n deall y bydd y cynnydd yn cael ei ariannu'n llawn, fe fyddwn yn cadw llygad manwl i sicrhau fod holl gostau ysgolion yn cael eu hariannu - nid cyfartaledd," meddai Laura Doel ar ran yr undeb.
Dywedodd BMA Cymru - sy'n cynrychioli meddygon - eu bod yn croesawu'n fras y codiad cyflog i feddygon iau, ymgynghorwyr ac arbenigwyr.
Ond dywedodd llefarydd na fydd modd gwybod yn iawn beth fydd y cynnydd tâl i feddygon nes bod trafodaethau yn dechrau - rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi oedi, meddai.
Wrth ymateb dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj, bod y symud ymlaen ar gyflogau sector cyhoeddus yn rhywbeth i'w groesawu, yn ogystal â’r ffaith bod y cynigion cyflog "uwchlaw chwyddiant ac yn debyg i’r hyn sydd wedi'i gynnig gan Lywodraeth y DU i weithwyr yn Lloegr".
Ond wrth gyfeirio at y ffaith bod y codiadau cyflog yn hwyr fe ychwanegodd: "Ry'n ni wedi pwysleisio i'r llywodraeth pa mor bwysig yw hi i osgoi oedi fel hyn yn y dyfodol."
'Ddylai Cymru ddim gorfod aros'
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies: “Mae’n amlwg ei fod er budd cenedlaethol y DU i ddod â’r streiciau hyn i ben, ond caniataodd gweinidogion Llafur yn y Senedd iddynt lusgo ymlaen.
"Yn wahanol i weinidogion Llafur yn y Senedd, fyddai'r Ceidwadwyr Cymreig ddim yn blaenoriaethu prosiectau diddim sy’n tynnu sylw oddi ar ein gwasanaethau cyhoeddus.”
Ychwanegodd Heledd Fychan o Blaid Cymru: “Rydym yn glir na ddylai gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru orfod aros am gyhoeddiadau yn Lloegr cyn derbyn gwell cynigion cyflog.
"Dyna pam mae angen model ariannu teg ar frys i roi diwedd ar ddibyniaeth Cymru ar benderfyniadau gwleidyddol a wneir dros y ffin."