Angharad i arwain Cymru i'r Euros?
- Cyhoeddwyd
Mae yna wythnos dyngedfennol ar y gweill i dîm pêl-droed merched Cymru.
Mi fyddan nhw'n wynebu Slofacia dros ddau gymal yn rownd gynderfynol gemau ail-gyfle Euro 2025.
Bydd yr enillwyr wedyn yn chwarae'n erbyn unai Gweriniaeth Iwerddon neu Georgia am le yn yr Euros yn Y Swistir yr haf nesaf.
Mae Cymru'n gobeithio creu hanes drwy gyrraedd rowndiau terfynol am y tro cyntaf erioed, ac mae ganddyn nhw gapten newydd i geisio eu harwain yno.
Pwyso a mesur cyn penodi
Ar ôl i Sophie Ingle gamu i lawr fel capten ym mis Ebrill, mi benderfynodd y rheolwr newydd Rhian Wilkinson gymryd ei hamser cyn penodi olynydd.
Mae Jess Fishlock, Hayley Ladd a Ceri Holland i gyd wedi cael y cyfle i arwain y tîm yn ystod y chwe mis diwethaf, cyn y cyhoeddiad dair wythnos yn ôl mai Angharad James fydd yn gwneud y swydd yn barhaol o hyn ymlaen.
Mae o'n sicr yn benderfyniad sy'n gwneud synnwyr gan fod ganddi gymaint o brofiad, ac yn rhywun sy'n uchel ei pharch o fewn yr ystafell newid.
Yn wreiddiol o Arberth, mae hi bellach wedi ennill 122 o gapiau dros ei gwlad ers ei hymddangosiad cyntaf nôl yn 2011.
"Mae Angharad wedi perfformio'n gyson i’r tîm yma am flynyddoedd, ac mae hynny’n cael ei amlygu gan y nifer o gemau y mae wedi eu chwarae," yn ôl Rhian Wilkinson.
"Mae ei hangerdd a’i hymrwymiad i’w gwlad yn amlwg, ac mae hi bob amser yn cynnig cyngor i’w chyd-chwaraewyr pan fydd hi’n camu ar y cae."
Ar lefel clwb mae Angharad ar y funud yn chwarae i glwb Seattle Reign yn y NWSL, sef y brif adran yn Yr Unol Daleithiau.
Mae'r gynghrair hon yn cael ei chydnabod fel yr un orau yn y byd yng ngêm y merched, felly mae chwarae'n rheolaidd yn Yr Unol Daleithiau wedi ei helpu hi ddatblygu fel chwaraewr.
Dyma'r eildro iddi chwarae yn y NWSL ar ôl iddi dreulio cyfnodau'n chwarae i North Carolina Courage ac Orlando Pride rhwng 2021 a 2022.
Yn nes at adref mae hi wedi chwarae i glybiau fel Everton, Reading a Tottenham Hotspur yn yn WSL, sef y brif adran yn Lloegr.
'Balch iawn'
Er fod Angharad yn dweud ei bod hi'n anrhydedd cael ei henwi'n gapten, mae hi'n pwysleisio fod ei ffocws hi ar gael canlyniad da yn erbyn Slofacia nos Wener.
"Mi fydd hi'n foment balch iawn i fi a fy nheulu yn arwain y merched allan. Ond tydi'r gêm ddim amdano fi."
Mi fuodd Cymru mewn sefyllfa debyg ddwy flynedd yn ôl pan gollon nhw yn rownd gynderfynol gemau ail-gyfle Cwpan y Byd yn erbyn Y Swistir.
"Ni fel grŵp ddim ishe edrych yn ôl, ni'n edrych ymlaen. Ni nawr yn garfan wahanol, ac mae'n sefyllfa wahanol.
"Natho ni ddysgu shwt gymaint yn y gêm yna. Y teimlad ar ôl y gêm - ni ddim moyn teimlo fel'na eto."
Bydd posib gwrando ar sylwebaeth o’r ddwy gêm yn ebryn Slofacia yn fyw ar BBC Radio Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd28 Medi 2024
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2024