Merched Cymru i wynebu Slofacia yn y gemau ail gyfle

Cymru yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Cymru orffen ar frig eu grŵp rhagbrofol

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd tîm pêl-droed merched Cymru yn wynebu Slofacia yn rownd gyntaf gemau ail gyfle Euro 2025.

Pe bai nhw'n llwyddo i drechu Slofacia dros ddau gymal, fe fydd tîm Rhian Wilkinson yn wynebu un ai Gweriniaeth Iwerddon neu Georgia yn yr ail rownd.

Fe wnaeth Cymru orffen ar frig eu grŵp rhagbrofol - oedd yn cynnwys Kosovo, Croatia ac Wcráin - gan sicrhau dyrchafiad i haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd.

Oddi cartref fydd Cymru yn y cymal cyntaf yn erbyn Slofacia ar 23 Hydref, gyda'r ail gymal yn cael ei chwarae wythnos yn ddiweddarach.

Fe fydd gemau'r ail rownd yn cael eu cynnal ar 27 Tachwedd a 3 Rhagfyr.

Yn y Swistir fydd rowndiau terfynol Euro 2025 yn cael eu cynnal.