Euro 2025: Cymru ar frig eu grŵp a Fishlock yn creu hanes

Mae Jess Fishlock bellach wedi sgorio 45 o goliau mewn 154 o gemau i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae tîm merched Cymru wedi gorffen ar frig eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Euro 2025 ar noson hanesyddol i Jess Fishlock.
Yr ymosodwr sgoriodd y gôl agoriadol nos Fawrth - gôl rhif 45 dros ei gwlad - wrth i Gymru drechu Kosovo 2-0 ym Mharc y Scarlets.
Fishlock bellach sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau, a sgorio'r nifer fwyaf o goliau yn hanes pêl-droed Cymru.
Roedd sawl rheswm i ddathlu yn Llanelli nos Fawrth, gan fod y fuddugoliaeth hefyd yn golygu y bydd carfan Rhian Wilkinson yn dychwelyd i haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd.
Ond bydd rhaid mynd heibio dwy rownd arall cyn iddyn nhw fod yn siŵr o'u lle yn y rowndiau terfynol.

Aeth Cymru ar y blaen wedi saith munud yn unig wrth i Carrie Jones daro'r bêl i gyfeiriad Fishlock ar ymyl y cwrt wedi rhediad pwerus drwy ganol cae.
Roedd gan Fishlock amser i wthio'r bêl i'w throed dde cyn ei tharo yn bwerus i gornel isa'r rhwyd.
Gyda Chymru yn llwyr reoli'r meddiant, daeth ail gôl wedi 26 o funudau.
Bron i Fishlock sgorio ei hail ar ôl manteisio ar gamgymeriad gan amddiffynwyr Kosovo, ond fe darodd ei hergyd y postyn pellaf ac fe adlamodd y bêl i gyfeiriad Mary McAteer - a lwyddodd i ergydio'n bwerus i gefn y rhwyd.
Dyma oedd ei gôl gyntaf i'r tîm cenedlaethol.
Parhau i ymosod wnaeth Cymru ar ddechrau'r ail hanner, gyda Fishlock yn achosi problemau i amddiffynwyr yr ymwelwyr unwaith eto.
Ond arafu gwnaeth y momentwm hwnnw, a thyfu mewn i'r gêm wnaeth Kosovo.
Fe wnaeth Ereleta Memeti fethu cyfle euraidd i haneru mantais y tîm cartref gyda hanner awr yn weddill
Er i'r ymwelwyr fygwth mwy yng nghyfnod ola'r gêm - prin iawn oedd y cyfleoedd gafodd eu creu, a doedd Cymru erioed mewn peryg gwirioneddol o ildio'r fantais.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2024