'Dim modd osgoi' gwrthdrawiad a laddodd seiclwr ar yr A5

David Fanning Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd David Fanning o Gorwen yn hoff o seiclo, ac roedd yn aelod o Glwb Seiclo Y Bala

  • Cyhoeddwyd

Doedd "dim modd osgoi" gwrthdrawiad a laddodd seiclwr ar yr A5 yn y gogledd, mae cwest wedi clywed.

Roedd David Fanning, peiriannwr 56 oed, yn seiclo o Gorwen i gyfeiriad Llangollen ar noson 31 Ionawr 2022 pan gafodd ei daro gan gar.

Dywedodd Lowri Williams wrth y cwest ei bod yn gyrru ar hyd yr A5 ger Llidiart-y-parc, Sir Ddinbych, y noson honno pan wnaeth hi edrych i lawr ar y gearstick am eiliad.

Pan edrychodd i fyny dywedodd iddi weld seiclwr yn gwisgo dillad tywyll o'i blaen.

Dywedodd iddi wyro i geisio ei osgoi, ond fe wnaeth y cerbyd daro Mr Fanning.

Er gwaethaf ymdrechion i'w achub, bu farw yn y fan a'r lle o ganlyniad i anafiadau difrifol i'w frest.

Lleoliad y gwrthdrawiad Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger Llidiart-y-parc yn Sir Ddinbych

Fe wnaeth yr ymchwilydd i wrthdrawiadau fforensig, Ian Thomspon, gwblhau adroddiad o'r digwyddiad ar ran Heddlu Gogledd Cymru.

Dywedodd: "Yn fy marn i, doedd dim modd osgoi'r gwrthdrawiad."

Roedd ei ganfyddiadau yn gyson gyda Ms Williams yn dweud iddi wyro i ffwrdd ar y funud olaf.

Dywedodd wrth y cwest fod ffôn Ms Williams wedi ei archwilio, ac nad oedd yn cael ei ddefnyddio ar adeg y gwrthdrawiad.

Fe wnaeth Mr Thompson dderbyn, er nad oedd modd darganfod golau beic Mr Fanning, roedd yn bosib bod y golau wedi ei daflu a mynd ar goll yn ystod y gwrthdrawiad.

Dywed William Tyler, a oedd yn cynrychioli teulu Mr Fanning, fod ganddyn nhw "bryderon am sut oedd y gwrthdrawiad wedi ei fodelu" gan Mr Thompson.

'Meddwl amdano pob diwrnod'

Dywedodd Ms Williams wrth y gwrandawiad yn Rhuthun: "Doedd dim fyddai wedi gallu rhwystro'r gwrthdrawiad rhag digwydd - dwi'n meddwl amdano pob diwrnod."

Dywedodd ei bod yn amcangyfrif ei bod yn gyrru rhwng 50 a 55mya ar y pryd, mewn ardal gyda therfyn cyflymder o 60mya.

Cafodd Ms Williams ei harestio yn dilyn y digwyddiad, ond fe gafodd ei rhyddhau yn ddi-gyhuddiad ar ôl cael ei chyfweld.

Roedd profion wedi'r digwyddiad yn dangos ei bod o dan y terfyn yfed a gyrru.

"Fyswn i'n dymuno gallu newid yr hyn ddigwyddodd, ond dwi methu," meddai.

Wrth roi tystiolaeth, dywedodd modurwyr eraill bod Mr Fanning yn gwisgo dillad tywyll ac nad oedden nhw wedi gweld golau ar gefn ei feic.

Daeth y crwner John Gittins i gasgliad fod Mr Fanning wedi marw o ganlyniad i wrthdrawiad ffordd.

Dywedodd fod y dillad tywyll yr oedd Mr Fanning yn gwisgo wedi golygu ei fod yn llai gweledol i yrwyr.

Pynciau cysylltiedig