Dur Port Talbot ym mhrif wobrau Eisteddfod yr Urdd eleni

Dur o Bort Talbot yng nghoron a chadair yr Urdd eleni
- Cyhoeddwyd
Mae Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd eleni yn cynnwys rhai o ddarnau olaf gwaith Tata Steel ym Mhort Talbot gan dalu teyrnged i dreftadaeth ddiwydiannol catref Eisteddfod yr Urdd 2025 ym Mharc Margam.
Nos Wener cafodd y gwobrau eu dadorchuddio yng Ngwesty'r Towers yn Abertawe.
Dwy ddynes leol sydd wedi cynllunio a chreu'r gwobrau a fydd yn cael eu rhoi i'r enillwyr ym Mhrifwyl yr Urdd ymhen rhai wythnosau.

Moment wishlist meddai Angharad i greu'r gadair
Dywedodd Angharad Pearce o Frynaman bod llunio'r gadair yn "gwireddu breuddwyd" - mae hi wedi bod yn gweithio gyda dur ers 30 mlynedd.
"Mae creu cadair eleni wedi bod yn fraint arbennig ac yn gwireddu breuddwyd. Mae'n rhywbeth sydd wedi bod ar fy wishlist ers blynyddoedd," meddai yr artist arobryn sy'n wreiddiol o'r Bala, ond sydd wedi byw yn ardal Brynaman ers ugain mlynedd.
Mae'r gadair a gafodd ei hysbrydoli gan weithfeydd a'r diwydiant dur lleol yn cynnwys cyfuniad o ddur Cymreig a dur gwastad a gynhyrchwyd ym Mhort Talbot.
Y gadair yn 'ddathliad'
Cafodd Angharad daith dywys o amgylch safle Tata Steel a gwelodd rannau nad oedd modd eu gweld o'r ffordd fawr, fel pibellau di-ri, ac mae'r rhannau hyn i'w gweld ar y gadair orffenedig.
"Dwi'n lwcus i mi gael y darn olaf o fwyn haearn Cymreig o weithiau Tata ar gyfer y gadairn" meddai Angharad.
"Roeddwn i'n benderfynol o greu cadair oedd yn teimlo'n ysgafn ac yn ddathliad cadarnhaol yn hytrach na symbol trist o'r gorffennol.
"Fy mwriad oedd creu cadair gyfoes ac apelgar ar gyfer y person ifanc a fydd, gobeithio, yn ei hennill. Rydw i eisiau iddyn nhw allu mwynhau'r gadair am byth."
Noddir y gadair gan Gapel Soar-Maesyrhaf yng Nghastell-nedd. Bu Angharad hefyd yn ymweld â'r capel Cymraeg hwn tra'n ymchwilio i'r hanes a'r adeilad am ysbrydoliaeth bellach.
Dywedodd ei bod yn cymryd tebygrwydd rhwng gwaith coed y Capel a phibellau'r gwaith dur.
"Roedd nifer o'r Cymry Cymraeg oedd yn arfer mynychu'r capel hefyd yn cael eu cyflogi yn y gwaith dur, a bydd y capel yn cael ei adlewyrchu yn y cynllun hefyd," ychwanegodd Angharad.

Cynhelir seremoni'r cadeirio ddydd Iau yr Eisteddfod
Cafodd y goron, sy'n cynnwys diemwntau am y tro cyntaf erioed, ei chreu gan ddynes leol arall, Nicola Palterman o Gastell-nedd.
Mae Nicola wedi gweithio yn y diwydiant gemwaith ers dros 30 mlynedd ac wedi sefydlu busnes yn ardal Castell-nedd yn ddiweddar.
Dywedodd Nicola yn ystod trafodaethau gyda'r noddwyr a'r pwyllgor lleol fod pawb yn cytuno bod angen adlewyrchu diwylliant a hanes yr ardal yn y dyluniad.
"Roeddwn i eisiau i'r dyluniad fod yn seiliedig ar y thema dur a môr. Mae tonnau'r dirwedd arfordirol yn ardal Aberafan i'w gweld," meddai.

Mae'r goron a ddyluniwyd gan Nicola yn cynnwys diemwntau am y tro cyntaf
"Mae'r dyluniad hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiant dur, sydd wedi bod yn asgwrn cefn i bobl dros y blynyddoedd," ychwanegodd Nicola.
Defnyddiodd Nicola hefyd ddeunydd o waith lleol Tata Steel i wneud y goron.
"Mae'r defnydd yn gyfuniad trawiadol o'r arian 'ifanc', sgleiniog; tun wedi'i orchuddio â haen o ddur lleol o weithiau Tata; a melfed glas sy'n cynrychioli'r elfen forwrol ar y cap.
"Dwi hefyd wedi ychwanegu diemwntau bach glas i gyflwyno elfen o foethusrwydd sydd wedi bod yn nodwedd o fy ngwaith dros y blynyddoedd.
"Dwi'n meddwl mai dyma'r tro cyntaf erioed i goron Eisteddfod yr Urdd gynnwys diemwntau," ychwanegodd.
Cynhelir seremoni'r Cadeirio ddydd Iau'r Eisteddfod drwy nawdd gan Ymddiriedolaeth Ivor ac Aeres Evans.
Cynhelir seremoni'r Coroni ar ddydd Gwener yr ŵyl ac mae wedi'i noddi gan Brifysgol Caerdydd.