Ympryd 24 awr gan ferched Cymru ar Ddiwrnod Heddwch y Cenhedloedd Unedig

gaza
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad yr ympryd 24 awr yw dangos cefnogaeth i deuluoedd Gaza

  • Cyhoeddwyd

Ar ddiwrnod heddwch y Cenhedloedd Unedig mae cannoedd o ferched ar draws Cymru wedi bod yn ymprydio am ddiwrnod er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r "erchyllterau sy'n digwydd ym Mhalesteina".

Un o'r trefnwyr yw Meleri Davies ac wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg ddydd Sul dywedodd: "Mae'n dod â phobl at ei gilydd i ddangos cefnogaeth, i deimlo empathi a sefyll mewn solidariaeth gyda theuluoedd Gaza.

"Yn y bôn 'dan ni'n teimlo'n ddiymadferth - mae hon yn weithred heddychlon 'dan ni'n gallu 'neud yn ein cartref.

"Yn fwy na'm byd 'dan ni'n ysgogi pobl i fod yn fwy gweithredol, ysgogi merched i ymuno gyda grwpiau heddwch... ac mae hyn i raddau yn adleisio deiseb 1923-34 pryd na'th 400,000 o'n cyn-neiniau ni fynegi dyhead i gael byd o heddwch.

"Dwi'n meddwl bod yna gryfder mewn dod at ein gilydd i godi calon mewn cyfnod tywyll."

Yuval Inbar
Disgrifiad o’r llun,

Mae Yuval Inbar, o Israel, yn cytuno â sylwadau'r llywodraeth yno

Yn ystod y dydd fe wnaeth Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, ddweud bod ei lywodraeth yn cydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd wedi i Canada ac Awstralia wneud hynny.

Ond yn ôl Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, mae cydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd yn ffordd o wobrwyo terfysgaeth.

"Mae'r DU yn anrhydeddu Hamas am eu hymosodiad barbaraidd ar Israel ar 7 Hydref 2023.

"Dyw'r gwystlon dal ddim wedi'u rhyddhau, dyw'r rhyfel ddim ar ben ac mae Hamas mewn grym yn Gaza," medd llefarydd ar ran y llywodraeth.

Cytuno mae Yuval Inbar, merch Israelaidd sydd wedi dysgu Cymraeg.

"Dydy cydnabod Palesteina fel gwladwriaeth ddim yn helpu," meddai wrth Newyddion S4C.

"Dyw hynna ddim yn bosib ar hyn o bryd.. tra bod Hamas yn Gaza. 'Dan ni angen dêl i'r gwystlon sydd heb eu rhyddhau."

'Rhaid i'r geiriau droi'n weithredoedd'

Mae'r newyddiadurwr Russell Isaac yn gweithio gyda'r Cenehedloedd Unedig ac wrth asesu y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ddydd Sul dywedodd:

"Mae cydnabod bod y fath beth â gwladwriaeth Balesteinaidd yn gallu bod yn hynod bwysig.

"Does dim ateb hirdymor i'r anghydfod yn y Dwyrain Canol oni bai bod statws gwladwriaeth ddeuol rhwng Israel a Phalesteina.

"Dyw'r cyhoeddiad yma ddim yn mynd i rwystro'r newynu, na'r dinistr di-baid sy'n digwydd yn Gaza ac mae'n mynd i elyniaethu Israel fwyfwy a'r Unol Daleithiau ond mae'n gam i'r cyfeiriad cywir.

"Mae'n cynnig gobaith bod dyfodol i'r Palesteiniaid ond mae'n rhaid i'r geiriau yma droi'n weithredoedd - gyda'r gymuned ryngwladol yn dyblu yr ymdrechion i gyrraedd cadoediad ac i osod fframwaith diplomyddol tuag at heddwch."

Mae'r merched sydd wedi bod yn ymprydio wedi bod yn codi arian i MAP (Medical Aid for Palestine).

Un sydd wedi bod yn cefnogi gwaith yr elusen yn Gaza yw Miriam Williams.

"Bues i yno yn 2019 a 2022 ac mae fy ffrind newydd fod allan yno yn gweithio yn yr ysbyty lle bu ffrwydrad bythefnos yn ôl.

"Yr hyn 'dan ni wedi bod yn ei wneud yw rhoi bwyd i bobl, darparu gwasanaeth cemotherapi, cyflwyno prosiectau iechyd meddwl a thrio cynnal gwasanaeth iechyd mewn tent neu yn yr awyr agored," meddai wrth siarad â rhaglen Bwrw Golwg.

"Mae 'na lygedyn o obaith weithiau bod hyn yn dod i ben - mae'n rhaid i ni ddal gafael yn hynny."

Daeth yr ympryd i ben nos Sul wrth i sawl digwyddiad yn galw am heddwch gael eu cynnal ar draws Cymru ar ddiwrnod heddwch y Cenhedloedd Unedig.

Ym Mangor daeth bron i hanner cant o bobl at ei gilydd i gynnal gwylnos heddwch.

"Roedd y digwyddiad yn cofio am ddioddefwyr rhyfel ym mhob man ac yn tystio i'r angen am gydweithio rhwng gwledydd i sicrhau cyfiawnder sy'n arwain at heddwch go iawn yn ein byd ni heddiw," meddai'r Parchedig Casi Jones.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig