Dau yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad ym Môn

Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod y gwrthdrawiad wedi digwydd ar ffordd yr A5 ger Bryngwran
- Cyhoeddwyd
Mae dau o bobl yn yr ysbyty wedi eu hanafu'n ddifrifol ar ôl gwrthdrawiad yn Sir Fôn.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i ffordd yr A5 ger Bryngwran tua 03:40 fore Sadwrn.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi gofyn i unrhyw un a welodd sgwter modur Piaggio Fly du yn yr ardal ar adeg y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.
Mae'r llu'n apelio am unrhyw wybodaeth arall ynghylch y digwyddiad.