Cofio’r Cymro fu’n ymgyrchu dros hawliau sifil De Affrica ganrif yn ôl
- Cyhoeddwyd
Mae gŵyl yn cael ei chynnal yn Aberystwyth y penwythnos hwn i gofio un o’r bobl gwyn cyntaf i ymgyrchu dros hawliau pobl ddu yn Ne Affrica.
Wrth nodi canrif ers marwolaeth David Ivon Jones, fu hefyd yn Rwsia i gefnogi’r Chwyldro Comiwnyddol, mae'r trefnwyr yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o fywyd "anhygoel" dyn sydd wedi cael mwy o sylw yn Ne Affrica nac yn ei famwlad.
Meddai Meic Birtwistle: “Tan yn ddiweddar, tan i rai erthyglau ddechrau cael eu sgwennu yma, os oedd rhywun yn chwilio am unrhywbeth amdano roedd popeth oedd wedi ei sgwennu yn dod o Dde Africa.
“Mae 'na blac bach iddo yn y dref (Aberystwyth) ond tydi hynny ddim wir yn gwneud cyfiawnder â David Ivon Jones - mae’n anodd gwneud hynny ar blac bychan.”
Fe gafodd David Ivon Jones ei eni ger Aberystwyth yn 1883. Ar ôl marwolaeth ei rieni pan oedd o’n fachgen, fe ddaeth yn weithgar o fewn Capel yr Undodiaid yn Aberystwyth a datblygu’n sosialydd oedd eisiau gweld newid cymdeithasol.
Ar ôl symud i Dde Affrica yn 1910 oherwydd gwaeledd daeth yn ymgyrchydd hawliau sifil ac yn sylfaenydd y Blaid Gomiwnyddol a ddatblygodd yn blaid yr ANC o dan arweinyddiaeth Nelson Mandela.
O Aberystwyth i Foscow
Yna ar ddechrau’r 1920au, yn ystod chwyldro’r Bolsieficiaid yn Rwsia, aeth i Foscow i weithio yn y Gyngres Ryngwladol gyda Vladimir Lenin cyn marwolaeth y ddau yn 1924.
Ychwanegodd Mr Birtwistle: “Pan chi’n meddwl am ei fywyd o, roedd y boi wedi gweld y Diwygiad, fe welodd o’r Rhyfel Mawr, fe welodd o’r Chwyldro Diwydiannol yn Ne Affrica gyda’r aur a’r glo, ac wedyn fe welodd o’r chwyldro yn Rwsia - ac nid yn unig gweld o ond bod yn rhan ohono.
“Y Cymro Cymraeg bach oedd yn gorfod gadael ysgol yn 14 gan fod ei rieni wedi marw, ac yn dod o deulu oedd heb lawer o arian ac wedi addysgu ei hun.”
Mae holl lythyrau, pamffledi, erthyglau ac ysgrifau David Ivon Jones bellach yn cael eu cadw yn Y Llyfrgell Genedlaethol.
Fel rhan o’r ŵyl fe fydd llyfr amdano A Voice for Freedom yn cael ei lansio yn Arad Goch ddydd Sadwrn.
Gyda'r nos yng Nghanolfan y Celfyddydau bydd London Recruits yn cael ei dangos - sef ffilm am bobl o Lundain fu’n helpu'r ANC yn ystod cyfnod apartheid yr 1960au.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill
- Cyhoeddwyd24 Chwefror