David Ivon Jones: Yr arwr gwrth-apartheid o Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae 13 Ebrill yn nodi canrif ers marwolaeth David Ivon Jones, y newyddiadurwr ac ymgyrchydd gwleidyddol o Geredigion.
Chwaraeodd Jones ran allweddol yn y mudiadau gwrth-apartheid yn Ne Affrica yn yr 1910au, ac fe gafodd hefyd ei anrhydeddu gan wladwriaeth Rwsia wedi ei farwolaeth.
Er mai 1948 i 1994 yw dyddiadau swyddogol y polisïau dan yr enw 'apartheid', roedd y wladwriaeth a'r gymdeithas yn dilyn prosesau hiliol ymhell cyn y cyfnod yma.
Blynyddoedd cynnar
Cafodd Jones ei eni yn Aberystwyth ar 18 Hydref, 1883. Bu farw ei rieni pan oedd yn fachgen ifanc felly cafodd ei fagu gan sawl aelod o'i deulu, ac yn ei arddegau fe weithiodd i gwmni a siop ei deulu yn Aberystwyth ac yn Llanbedr Pont Steffan.
Roedd ei daid, John Ivon Jones, yn ymgyrchydd ar faterion radicalaidd a rhyddfrydol yn ardal Aberystwyth, ac mae'n debyg y gwnaeth hyn dipyn o argraff ar y David Ivon Jones ifanc.
Dylanwad crefyddol
Cafodd Jones ei fagu yn y traddodiad Methodist Calfinaidd, ond yn ei arddegau fe newidiodd i fod yn Undodwr, yn bennaf oherwydd dylanwad syniadau y gweinidog George Eyre Evans.
Roedd gan Jones ddiddordeb mewn athroniaeth, yn enwedig gwaith Immanuel Kant a Plato. Daeth yn drysorydd ac ysgrifennydd capel Undodaidd Aberystwyth, ac fe ddatblygodd y sefydliad i fod yn ganolfan i wleidyddiaeth radicalaidd.
Yn ôl cofnodion y capel fe gafodd glowyr a oedd ar streic eu gwahodd yno, ac fe wnaeth aelodau'r capel gasglu arian ar gyfer chwarelwyr y Penrhyn oedd heb dderbyn incwm ers tair blynedd yn ystod streic 1900-1903. Mae cofnodion y capel hefyd yn dangos bod Gertrude von Petzold wedi'i chroesawu yno hefyd - y ddynes gyntaf i gael ei hordeinio ym Mhrydain.
Erbyn i Jones ddod yn ddyn ifanc roedd ei ddaliadau sosialaidd a'i ymrwymiad at gyfiawnder cymdeithasol yn hollol ganolog i'w fywyd.
Gadael Cymru
Yn ei 20au cynnar fe gafodd Jones y diciâu, salwch a oedd yn gyffredin yng Nghymru ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Yn 1907, dan gyngor meddygol fe benderfynodd ymfudo i Seland Newydd gan obeithio y byddai'r hinsawdd yno'n ei helpu gyda'i salwch.
Ond doedd Jones ddim yn Seland Newydd yn hir iawn, ac ym mis Tachwedd 1910 fe symudodd i dalaith Oranje-Vrystaat (Orange Free State) yn Ne Affrica. Gweithiodd mewn siop roedd dau o'i frodyr yn berchen arni, cyn mynd 'mlaen i weithio gyda thrydydd brawd yn ardal Witwatersrand.
Parhaodd crefydd i fod yn ganolog i'w fywyd, yn ogystal â'i ddaliadau radicalaidd. Roedd yn clodfori radicaliaeth ei gyd-Gymro, David Lloyd George; roedd hunaniaeth Gymreig yn hynod bwysig i'r ddau ddyn, ac roedd Jones yn ystyried ei hun fel cenedlaetholwr Cymreig.
Yn ôl yr hanesydd Baruch Hirson, roedd cenedlaetholdeb Jones pan oedd yn iau wedi creu "casineb hyd-oes tuag at ormes a gorthrwm cenedlaethol".
Pan oedd yn Ne Affrica fe ddatblygodd ei edmygedd tuag at y Boers, a'r ffordd y gwnaethant ymladd yn erbyn yr Ymerodraeth Brydeinig rhwng 1899 ac 1902.
Yn yr amser yma hefyd dechreuodd Jones gwestiynu ei agwedd ei hun tuag at bobl ddu. Fel oedd yn gyffredin dros ganrif yn ôl roedd gan Jones rywfaint o ragfarn tuag at hiliau eraill. Ond roedd y gyfundrefn hiliol yn Ne Affrica wedi sbarduno rhywbeth oddi mewn iddo i newid ei gredoau a brwydro yn erbyn hiliaeth ac anghyfiawnder.
Ymunodd â Phlaid Lafur De Affrica yn 1911, ac roedd yn cefnogi creu'r South African Native National Congress, a ddatblygodd y flwyddyn ganlynol i fod yr ANC (African National Congress) rydyn ni'n ei 'nabod heddiw.
Anffyddiaeth a Chomiwnyddiaeth
Ym mis Gorffennaf 1913 ac Ionawr 1914 roedd cyfres o brotestiadau gan weithiwyr pyllau glo yn Ne Affrica. Gweithwyr gwyn oedd rhain, ac aeth y protestiadau'n waedlyd gyda'r llywodraeth yn gofyn i gatrawd Prydeinig a oedd wedi'i lleoli yn Transvaal ddelio gyda'r anghydfod.
Yn y pen draw cafodd streic gyffredinol ei chyhoeddi ac fe gafodd 20 o brotestwyr (a oedd heb arfau) eu lladd mewn protest yn Johannesberg. Cafodd hyn effaith fawr ar Jones ac fe adawodd ei swydd fel clerc i gwmni gorsaf bŵer a phenderfynu ymroi yn llwyr i greu undebau er lles hawliau glowyr.
Erbyn Awst 1914 cafodd Jones ei ethol fel ysgrifennydd cyffredinol Plaid Lafur De Affrica, ond roedd ei deimladau gwleidyddol yn mynd fwyfwy tua'r chwith. Doedd o chwaith ddim yn teimlo bod y Blaid Lafur yn gwneud digon o ran hawliau bobl ddu, nac yn poeni am gyfundrefn hiliol arpartheid.
Aeth Jones drwy gyfnod o iselder ble roedd yn cwestiynu ei ffydd a hefyd ble roedd ei gartref gwleidyddol, ac wedi cyfnod o ddarllen gwaith Marx, Engels, Tolstoy ac eraill daeth allan o'r cyfnod anodd fel anffyddiwr a chomiwnydd.
Gadawodd y Blaid Lafur yn 1915 a dod yn arweinydd ar fudiad o'r enw'r International Socialist League (ISL), gan ddweud bod ganddo ddau elyn; gwladychiaeth (colonialism) a chyfalafiaeth.
Daeth yn olygydd cyntaf ar bapur newydd wythnosol yr ISL, The International, ac fe ddefnyddiodd y papur i gefnogi Lenin a'r Bolsieficiaid, ac i egluro pwysigrwydd rhyngwladol y chwyldroadau Chwefror a Hydref 1917 yn Rwsia.
Hawliau pobl ddu
Un o'r pethau yr oedd Jones yn angerddol amdano oedd creu cydraddoldeb yn y dosbarth gweithiol rhwng y cymunedau du a'r cymunedau gwyn. Yn 1917 sefydlodd yr Industrial Workers of Africa (IWA) - yr undeb llafur cyntaf i bobl ddu yn Ne Affrica.
Gorchmynnodd Jones i'r International Socialist League (ISL) brintio pamffledi mewn ieithoedd brodorol Affricanaidd, yn mynnu hawliau i weithwyr du a newid drwy'r gymdeithas. Fe wnaeth Jones hefyd sefydlu dosbarthiadau gyda'r nos i addysgu pobl ddu, dlawd, yn Ne Affrica.
Yn 1919, yn cydweithio â'r ymgyrchydd LHH Greene, ysgrifennodd Jones daflen yn hyrwyddo comiwnyddiaeth a chydraddoldeb hiliol.
Cafodd y ddogfen yma, The Bolsheviks are Coming!, ei ysgrifennu yn Saesneg, Zulu a Sotho, ac roedd yn ymateb i'r chwyldro yn Rwsia dwy flynedd ynghynt a'r frwydr a oedd yn uno gweithiwr y byd, beth bynnag oedd lliw eu croen.
Hwn oedd y darn o waith mwyaf arwyddocaol yng ngyrfa Jones, ac ynddo mae'n datgan: "While the Black worker is oppressed, the white worker cannot be free."
O ganlyniad i gyhoeddi'r daflen yma cafodd Jones a Greene eu harestio, eu dirwyo, a'u carcharu am bedwar mis - ond cafodd y dedfryd ei wyrdroi yn ddiweddarach.
Gadael Affrica
Fe adawodd Jones Affrica yn 1920 (eto'n symud oherwydd rhesymau iechyd) gan fynd i Nice yn ne Ffrainc.
Tra yno fe ysgrifennodd adroddiad am ddosbarth a hil yn Ne Affrica, a sut mae ffactorau economaidd yn effeithio ar y rhwygiadau mewn cymdeithas a thensiynau hiliol. Yn ôl y sôn fe wnaeth yr adroddiad dipyn o argraff ar Vladimir Lenin ei hun.
Ar ôl ymweliad byr â Chymru yn 1921, cafodd Jones ei wahodd i'r Drydedd Gyngres Ryngwladol Gomiwnyddol a gynhaliwyd ym Moscow fel cynrychiolydd o Dde Affrica. Yno fe ddywedodd Jones:
"They (black Africans) are ripe for communism. They are absolutely propertyless. They are stripped of every vestige of property and caste prejudice. The African natives are a labouring race, still fresh from ancestral communal traditions…They only need awakening. They know they are slaves, but lack the knowledge how to free themselves... The solution of the problem, the whole world problem is being worked out in South Africa on the field of the working-class movement."
Erbyn hyn roedd iechyd Jones wedi gwaethygu ac fe ymbellhaodd ei hun o wleidyddiaeth, gan dreulio'i amser yn dysgu Rwsieg - yr oedd yn un o'r bobl cyntaf i gyfieithu gwaith Lenin o'r Rwsieg i Saesneg.
Fe ysgrifennodd Jones i gyhoeddiadau Comiwnyddol ym Mhrydain, yr Unol Daleithiau a De Affrica yn y cyfnod yma. Yn y Communist Review (papur Plaid Gomiwnyddol Prydain) yn 1922 datganodd Jones ei gefnogaeth i'r Bolsieficiaid yn eu brwydr yn erbyn Eglwys Uniongred Rwsia, ac yn 1924 dywedodd y dylai sosialwyr Saesneg eu hiaith ddarllen gwaith Lenin, Martov a Plekhanov.
Gyda iechyd Jones yn dirywio'n gyflym gyda'r dicáu cafodd ei anfon gan fudiad y Comintern (Comiwnydd Rhyngwladol) i Yalta i wella. Ar ei wely angau fe wnaeth Jones annog ei gyd-gomiwnyddion i barhau i gefnogi'r chwyldro ac ymladd yn erbyn imperialaeth a chyfalafiaeth:
"Carry out the great revolutionary mission imposed on colonies in general and South Africa in particular with revolutionary devotion and dignity, concentrating on shaking the foundations of world capitalism and British imperialism".
Bu farw Jones ar 13 Ebrill 1924 o'r dicáu, gan gael ei gladdu ym Mynwent Novodevichy, Moscow.
Hon yw mynwent mwyaf nodedig Rwsia, ble mae ffigyrau fel Nikita Khrushchev, Boris Yeltsin, Anton Chekhov, Dmitri Shostakovich a Sergei Prokofiev wedi'u claddu. Cafodd yr anrhydedd o gael ei gladdu yno am fod Rwsiaid Comiwnyddol eisiau cydnabod ei ymroddiad tuag at sosialaeth.
Dylanwad bywyd Jones
Yn 2005 roedd mesur gerbron Senedd Prydain i gydnabod ymroddiad Jones i wella bywydau pobl ddu De Affrica, gyda Jeremy Corbyn ymysg y cefnogwyr.
Wedi marwolaeth Nelson Mandela yn 2013 roedd gwasanaeth arbennig i goffáu David Ivon Jones, yn cydnabod ei waith yn erbyn apartheid a chydnabod bod Mandela wedi parhau gyda'r gwaith gwrth-hiliaeth a ddechreuwyd gan Jones.
Mae ei waith yn brwydro yn erbyn hiliaeth yn cael ei edmygu gan yr ANC hyd heddiw, a'i ymgyrchu dros weithwyr cyffredin yn cael ei gydnabod yn Ne Affrica, Rwsia, a thu hwnt.
Hefyd o dddiddordeb: