Sir y Fflint: Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad

- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Queensferry, Sir y Fflint, ddydd Llun.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 16:00 i ddigwyddiad ar gylchfan y B5129 ger Asda.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys cerbyd nwyddau trwm a beic modur du.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw gyrrwr y beic modur ar safle'r ddamwain.
Mae teulu'r dyn a'r crwner wedi cael gwybod am ei farwolaeth.
Mae'r heddlu yn apelio am un rhywun sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.