Cweir o 4-0 i Gymru yn Slofacia mewn gêm siomedig arall
- Cyhoeddwyd
Fe roddodd Slofacia gweir o 4-0 i Gymru mewn gêm gyfeillgar i gynyddu'r pwysau ar y rheolwr Rob Page.
Ar ôl gêm gyfartal rwystredig yn erbyn Gibraltar ddydd Iau, roedd golwg mwy cyfarwydd i'r tîm a gamodd allan yn y Stadion Antona Malatinskeho nos Sul.
O'r 11 ifanc ac arbrofol a gychwynnodd ym Mhortiwgal, dim ond pedwar a ddechreuodd yn Trnava - Ben Cabango, Josh Sheehan, Jay Dasilva a Fin Stevens.
Fe gafodd Cymru gyfnodau da yn yr hanner cyntaf, ond fe ildiodd yr ymwelwyr eiliadau cyn yr egwyl i dynnu'r gwynt o hwyliau'r Cymry.
Fe ildiodd Cymru dair gôl arall yn yr ail hanner, gan gynnwys pedwaredd yn symudiad olaf y gêm i rwbio'r halen yn y briw.
Mewn cyfweliad gyda Sgorio ar S4C ar ddiwedd y gêm fe ddywedodd Page ei fod yn ymddiheuro i'r cefnogwyr.
Yn camu'n ôl o'i safle arferol yng nghanol y cae i'r amddiffyn, Ethan Ampadu gafodd ei ddewis fel capten.
Roedd yr hanner cyntaf yn agored gyda chyfnodau da i Slofacia dros y 30 munud gyntaf, gan gynnwys gôl gan David Hancko a gafodd ei diystyru am gamsefyll ar ôl 24 munud.
Fe dyfodd Cymru i fewn i'r gêm ar ôl hanner awr, yn ennill tair cic gornel yn gyflym.
Er y cyfnod estynedig o bwysau da gan Gymru tuag at ddiwedd yr hanner, bu'n 45 munud cyfforddus i'r golwr Dúbravka.
Ac roedd hi'n argoeli'n hanner boddhaol i Gymru hefyd tan i Juraj Kucka saethu o 25 llath heibio Ward eiliadau cyn i'r dyfarnwr chwythu ei chwiban.
Roedd Cymru o dan bwysau o ddechrau'r ail hanner, yn ildio ail gôl, tro yma o gic cornel gan Boženík ar ôl 56 munud.
Daeth y drydedd munudau'n ddiweddarach pan darodd y bêl Ethan Ampadu yn dilyn croesiad.
Camodd Brennan Johnson a Nathan Broadhead oddi ar y cae ar ôl awr i wneud lle am Lewis Koumas a Wes Burns.
Yn fuan fe gafodd Burns un o gyfleoedd gorau Cymru ond aeth yr ergyd yn syth at Dúbravka.
Roedd Slofacia yn llwyr reoli'r chwarae ac yn dilyn camgymeriad gan Ampadu fe sgoriodd yr eilydd László Bénes bedwaredd eiliadau cyn y chwiban olaf.
Beth nesaf?
Bydd gemau cystadleuol nesaf Cymru ym mis Medi yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Ar ôl disgyn o'r brif haen yn 2022, mae Cymru wedi eu rhoi mewn grŵp gyda Gwlad yr Iâ, Montenegro a Thwrci yng Nghynghrair B.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin
- Cyhoeddwyd6 Mehefin
- Cyhoeddwyd4 Mehefin