'Cwestiynau mawr' am ddyfodol Rob Page fel rheolwr Cymru
- Cyhoeddwyd
Cyfle i gael golwg ar chwaraewyr y dyfodol oedd un o amcanion y gêm yn erbyn Gibraltar ym Mhortiwgal ddydd Iau, ond beryg mai crafu ei ben fydd y prif hyfforddwr Rob Page wedi’r canlyniad, oedd yn ôl rhai yn embaras.
I’w roi yn ei gyd-destun, cyn y gêm yn erbyn Cymru, roedd Gibraltar yn safle 203 ar restr detholion FIFA, wedi colli pob un o’u 13 gêm ddiwethaf, heb sgorio gôl ac wedi ildio 50 o goliau.
Mi all rhywun ddadlau mai tîm ifanc di-brofiad oedd yr un gafodd ei ddewis gan Page, ond hyd yn oed gyda’r chwaraewyr ifanc hynny, mi ddylai Cymru fod wedi curo un o dimau gwanaf Ewrop.
Wedi’r siom o golli yn erbyn Gwlad Pwyl yn rownd derfynol gemau ailgyfle Euro 2024 ym mis Mawrth, roedd angen rhywbeth i gynnig gobaith at y dyfodol.
Ond wedi'r chwiban olaf nos Iau, roedd yr ymateb gan rai cefnogwyr yn llugoer, a bwio i’w glywed tuag at reolwr Cymru.
Felly beth ydi’r ymateb gan rai o arbenigwyr pêl-droed Cymru?
Malcolm Allen – Cyn-ymosodwr Cymru
Wrth siarad gyda rhaglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru fore Gwener, dywedodd Malcolm Allen fod nifer o'r chwaraewyr wedi methu cyfle euraidd.
“Roedd y gêm yn llwyfan i’r chwaraewyr ifanc greu argraff, ond wnaethon nhw ddim ar wahân i Lewis Koumas. Mae ganddo fo’r potensial i chwarae i’r tîm cyntaf,” meddai.
“Roedd rhywun yn disgwyl mwy gan Rubin Colwill a Rabbi Matondo i wneud y mwyaf o’u cyfle, ond wnaethon nhw ddim. Fyddan nhw ddim ar flaen y rhestr i Rob Page pan y bydd yn dewis ei garfan nesaf.
“Mi fydd yna gwestiynau mawr yn cael eu gofyn os nad ydan ni’n ennill yn erbyn Slofacia nos Sul.”
Roedd Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones hefyd yn ymateb i ganlyniad nos Iau ar bennod ddiweddaraf Y Coridor Ansicrwydd.
Nia Jones – Cyn-amddiffynwr Cymru
“Mae’n bwysig i’w roi yn ei gyd-destun. Doedd nifer o chwaraewyr allweddol ddim ar gael i ni, ac mae hynny yn gwneud gwahaniaeth mawr," meddai Nia Jones mewn cyfweliad â BBC Radio Wales.
"Ond dwi’n meddwl fod gan Rob Page bob hawl i fod yn nerfus, ac nid ar sail y canlyniad yn erbyn Gibraltar yn unig fyddai hynny.
“Beth oedd yn rhwystredig i mi fel cefnogwr Cymru oedd y diffyg angerdd ac ymroddiad. Fel cefnogwr Cymru, dyna mae cefnogwyr Cymru yn ei ddisgwyl.
“O ran y gêm yn erbyn Slofacia ddydd Sul pan fyddan nhw’n dewis tîm cryfach, dwi’n teimlo bod hon yn gêm y mae’n rhaid i Rob Page ei hennill ar lefel bersonol.”
Nathan Blake – Cyn-ymosodwr Cymru
Dywedodd cyn-ymosodwr Cymru, Nathan Blake wedi'r gêm bod y pwysau ar y rheolwr yn ddigon teg, ac yn rhan o'r gêm fodern.
“Os ydych chi’n edrych ar bapur ac yn gweld eich bod chi wedi cael gêm gyfartal yn erbyn Gibraltar, mae hi mor syml â hynny,” meddai.
“Ond i fod yn deg gyda Page, dydy o ddim wedi gwneud yn ddrwg wrth ystyried ei fod wedi arwain Cymru i Gwpan y Byd a’r Euros.
“Ond ar ddiwedd y dydd, fedrwch chi ddim gorffwys ar eich rhwyfau.
"Mae pobl wastad angen mwy, dyna natur pêl-droed.”
Fe gafodd Page gefnogaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi’r golled yn erbyn Gwlad Pwyl, ac er mai gêm gyfeillgar ydy hon yn erbyn Slofacia, mae’n bwysig bod rheolwr Cymru a’r tîm yn cael canlyniad positif cyn bod yr ymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn dechrau fis Medi.
Mae Wes Burns a Jay Dasilva wedi datgan eu cefnogaeth i’r rheolwr, ond does dim dwywaith y bydd y pwysau yn cynyddu ar Page os na fydd y perfformiadau a’r canlyniadau yn gwella.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin
- Cyhoeddwyd6 Mehefin