Hyrox cyntaf Cymru'n gyfle i 'roi Caerdydd ar y map'
Beth yw Hyrox? Dafydd Morgan sy'n esbonio
- Cyhoeddwyd
Wrth i gystadleuaeth ffitrwydd Hyrox ddod i Gymru am y tro cyntaf, mae athletwyr y brifddinas yn dweud bod y digwyddiad yn gyfle i "roi Caerdydd ar y map".
Bydd y digwyddiad 'rasio ffitrwydd' yn cael ei gynnal rhwng 30 Mai a 1 Mehefin yn Stadiwm Principality.
Yn ôl rheiny sy'n gobeithio cystadlu yn y brifddinas, mae pobl eisoes wedi dechrau paratoi, er nad yw'r tocynnau ar werth eto.
Fe allai ymweliad Hyrox â Chaerdydd roi "hwb economaidd" i'r ddinas, yn ôl economegydd blaenllaw.

Dechreuodd Mari gystadlu yn rasys Hyrox y llynedd
Mae Mari, sy'n 21 ac o Rhuthun, wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau Hyrox ar draws Ewrop.
"O'n i wedi bod yn ymarfer corff am sbel, ond o'n i'n teimlo fel bod fi'n ymarfer corff just am yr estheteg yn hytrach na'r actual perfformiad.
"Nes i archebu tocyn Hyrox fi, yr un cyntaf, y llynedd, ac roedd hwnna wedyn yn esgus i gael mwy o gymhelliant, a rhywbeth i weithio tuag at."
Fe gystadlodd Mari yn ei ras gyntaf yn Birmingham. Ers hynny, mae wedi teithio i Ddulyn a'r Eidal i fod yn rhan o'r cyffro.
"Ro'n i'n gwirfoddoli yn Dulyn a fa'na nes i gwrdd â chymaint o bobl newydd, a dwi'n mynd i Copenhagen efo ffrind nes i 'neud yn Dulyn felly ma'n reit neis cal cwrdd â phobl newydd.
"Ma' 'na gymuned reit neis ohonom ni."
Beth ydy Hyrox?

Mae ras Hyrox yn cynnwys wyth gorsaf ffitrwydd, a rhwng pob gorsaf mae'n rhaid rhedeg 1 cilometr
Cafodd Hyrox ei sefydlu yn yr Almaen yn 2017 - ac ers hynny mae wed tyfu i fod yn ddigwyddiad ffitrwydd rhyngwladol, sy'n denu pobl o bob oedran a chefndir.
Mae'r ras yn cynnwys wyth gorsaf ffitrwydd - yn ey plith mae'r Ski Erg, Farmer's Carry a'r Wall Balls, a rhwng pob gorsaf mae'n rhaid rhedeg 1 cilometr.
Mae modd cystadlu'n unigol, neu mewn categorïau i barau neu dimau o bedwar.

Mae'r Ski Erg yn un o'r ymarferion sy'n rhaid gwneud fel rhan o Hyrox
Gyda disgwyl hyd at 10,000 o gystadleuwyr yn Stadiwm Principality ddiwedd mis Mai, dywedodd yr economegydd Dylan Jones Evans bod disgwyl "degau ar filoedd" o bobl i ymweld â'r ddinas.
"Be welon ni gyda Hyrox pan aethon nhw i Glasgow yn ddiweddar oedd 40,000 o bobl yn mynd i'r ddinas fyddai ddim wedi mynd i Glasgow.
"Be' ni am weld yma yng Nghaerdydd yw degau ar filoedd o bobl yn dod yma ar amser lle fydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr wedi gadael, felly mae'n amser distaw i'r ddinas ac felly'n rhoi hwb economaidd ar adeg lle nad oedden nhw'n disgwyl i'r fath yna o arian i ddod mewn i'r siopau a'r tai bwyta."
'Helpu gyda'r motivation'
Mae Ffion, 27 o Gaerffili, yn gobeithio cael tocyn Hyrox Caerdydd – dyma fydd y tro cyntaf iddi hi gystadlu yn y gamp.
Wythnosau sydd i fynd tan bod Hyrox yn dod i Gaerdydd, ac mae'r paratoi wedi dechrau gan rheiny sydd am gymryd rhan - hyd yn oed cyn i'r tocynnau fynd ar werth.

Dywedodd Ffion bod y ras ffitrwydd yn "ffordd dda i gwrdd â ffrindiau"
"Dwi wastad wedi bod mewn i mynd i'r gym a chadw'n heini, ond nes i glywed am Hyrox a gweld e dros social media i gyd, ac roedd e'n edrych yn really hwyl.
"Mae'n rhywbeth bach yn wahanol, bod ti'n gallu neud e gyda ffrindiau, mewn dwbwls, mewn tîm a bod e'n gôl i weithio tuag ato."
Ychwanegodd Ffion bod y ras ffitrwydd yn "ffordd dda i gwrdd â ffrindiau".
"Mae'n rhoi teimlad o weithio tuag at rywbeth gyda'ch gilydd, rhoi cymorth i'ch gilydd, a pusho eich gilydd i wneud yn well, felly mae'n really helpu gyda'r motivation."
"Mae pobl yn teithio o gwmpas y byd i wneud e hefyd, so bydd e'n dda i roi Caerdydd ar y map, cael pobl mewn i wneud Hyrox, ond hefyd i weld be' arall sydd gan y ddinas i'w chynnig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl