Heddlu yn apelio am wybodaeth wedi ymosodiad rhyw ar draeth

- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad rhyw ar draeth yng Ngwynedd ddydd Sadwrn.
Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiadau fod ymosodiad wedi digwydd ger llwybr yr arfordir ar y traeth yng Nghricieth tua 19:30.
Dywedodd Ditectif Srajant Mark Dickson: "Rydw i'n apelio ar unrhyw un oedd yn cerdded yn ardal Graig Ddu o'r traeth a'r llwybr yr arfordir rhwng 17:30 a 20:30 i gysylltu â ni.
"Nid yw'r fath yma o ddigwyddiadau yn digwydd yn aml, a hoffwn sicrhau'r gymuned fod yna fwy o bresenoldeb yr heddlu yn yr ardal er diogelwch."
Aeth ymlaen i ddweud fod ymchwiliadau i'r digwyddiad hwn yn parhau, ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.