Glyn Wise ac Elinor Talfan, 79, yn falch o gael eu hordeinio

Mae Glyn Wise wedi bod yn cerdded llwybr y Camino ar draws gogledd Sbaen yn ddiweddar
- Cyhoeddwyd
Ar draws esgobaethau Cymru mae degau yn cael eu hordeinio y penwythnos hwn, ac yn eu plith mae enwau cyfarwydd fel Glyn Wise.
Y penwythnos diwethaf cafodd Elinor Talfan Delaney, 79 ei hordeinio yn offeiriad yn Llundain - mae hi ymhlith yr hynaf erioed.
Mae Glyn Wise, 37, a ddaeth i amlygrwydd ar gyfres Big Brother, ymhlith y rhai sy'n cael eu hordeinio gan yr Eglwys yng Nghymru yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy.
Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf mae Glyn wedi bod yn cael ei hyfforddi i fod yn offeiriad yn Athrofa Padarn Sant yng Nghaerdydd, ac mae wedi treulio cyfnodau yn Eglwys San Silyn yn Wrecsam a Llangollen.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd ei fod "methu credu bod diwrnod yr ordeinio wedi cyrraedd" a bod y cyfan fel "breuddwyd wedi dod yn wir".
"Bydd Mam a Dad yn dod, a fy chwaer - mae fy ngwreiddiau ym Mlaenau Ffestiniog dal yn bwysig i fi.
"Rwy'n cofio gweddïo'n ifanc iawn yno a mynd i'r Ysgol Sul ac i Eglwys y Bowydd yn Blaenau."

Daeth Glyn Wise i amlygrwydd ar raglen Big Brother nôl yn 2006
Fe ddaeth Glyn Wise yn agos iawn at ennill rhaglen Big Brother yn 2006 ond "dwi wedi newid dipyn ers y dyddiau hynny", meddai.
Ers y cyfnod hwnnw mae wedi bod yn gyflwynydd ar Radio Cymru ac yn athro yn China.
Mae'n dweud mai'r cyfnod fel athro Saesneg yn Shanghai a ddylanwadodd fwyaf arno o ran ei ffydd Gristnogol, wrth iddo gael y cyfle i fynd i astudiaethau Beiblaidd "gwbl ysbrydoledig".
Yn ystod y dyddiau diwethaf mae wedi bod yn cerdded llwybr pererinion y Camino ar draws gogledd Sbaen, o St Jean Pied De Port i Santiago De Compestela.
"Roedd cerdded 790 km dros gyfnod o 22 diwrnod yn brofiad hynod o hapus - ac yn gyfle i mi weld Duw a goleuni ymhob dim," meddai.
Wedi iddo gael ei ordeinio yn ddiacon ddydd Sadwrn bydd Glyn yn gweinidogaethu yn ardal Bae Colwyn, a dywed ei fod yn edrych ymlaen yn fawr iawn.

Elinor Talfan ar ddiwrnod ei hordeinio yng nghwmni ei mab Tomos
Cafodd Elinor Talfan Delaney ei hordeinio yr wythnos ddiwethaf yn Llundain i fod yn offeiriad yn Eglwys St Jude-on-the-Hill, Hampstead, a hynny ddiwrnod wedi ei phen-blwydd yn 79 oed.
Mae'n dweud ei bod yn falch mai hi yw un o'r rhai hynaf erioed i gael ei hordeinio ac yn dweud ei bod yn "llawn bywyd a brwdfrydedd".
Yn wreiddiol o'r Barri ac yna Caerdydd, roedd hi wedi bod yn freuddwyd ganddi ers yn ifanc i weithio yn y byd eglwysig.
"Mae wedi bod yn dipyn o daith, yn ddyhead oes ac mae'n hyfryd fy mod wedi gwireddu'r freuddwyd," meddai.
"Bydden i'n dweud bo' fi wedi cael galwad i wneud y gwaith - dechreuais drwy fod yn athrawes Ysgol Sul yn Eglwys Dewi Sant, Caerdydd ac yna es i Lundain - roedd yr alwad yno'n gryf."

Bydd Elinor Talfan yn offeiriad yn Eglwys St Jude-on-the-Hill, Hampstead
Wedi cyngor gan ei mam i gael gradd, aeth Elinor Talfan i goleg nyrsio, yna cafodd bedwar o blant ac wedi marwolaeth ei gŵr cyntaf yn 1991 bu'n rhaid iddi ymgymryd â "swydd iawn" fel nyrs yn ysbyty'r Royal Free.
Yn ystod ei chyfnod cynnar hefyd bu'n ohebydd llawrydd i Radio Cymru ac yn gyflwynydd tywydd, ond roedd y "bywyd eglwysig yn gefndir i bob dim".
Yn 50 oed penderfynodd ei bod yn bryd newid gyrfa ac fe gafodd waith fel nyrs i aelodau o gôr Cadeirlan St Paul's ac yna wedi iddi ymddeol daeth cyfle iddi weinidogaethu mewn eglwys yn Hampstead.
Aeth i goleg diwinyddol ac mae hi bellach yn offeiriad.
"O'n i wrth fy modd yn nyrsio a nawr bod yn offeiriad - gwasanaethu sydd wrth fôn popeth," meddai.
"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr i fod yn offeiriad wedi diwrnod hyfryd yng nghwmni'r teulu ar ddiwrnod fy ordeinio yng ngorllewin Hampstead - fel o'n i'n dweud, gwireddu breuddwyd oes."
Bydd Glyn Wise yn siarad ar raglen Bwrw Golwg ar Radio Cymru ddydd Sul am 12:30 ac yna ar BBC Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd27 Mai 2021