Eisteddfod Genedlaethol 2024: Sut mae cyrraedd y maes?

- Cyhoeddwyd
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi'r trefniadau teithio ar gyfer ymweld â'r Brifwyl ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd.
Bydd y Brifwyl yn dechrau ar ddydd Sadwrn 3 Awst ac yn dod i ben ar nos Sadwrn 10 Awst.
Mae eisteddfodwyr yn cael eu hannog i gyrraedd y Maes ar drafnidiaeth gyhoeddus neu i barcio, os yn gyrru, yn y meysydd parcio a theithio penodol.
Mae Pontypridd yn dref brysur ar y gorau, medd y trefnwyr, a gall traffig fod yn broblem ar ddiwrnod arferol.
"Rydyn ni’n awyddus i sicrhau nad ydyn ni’n ychwanegu at y broblem, ac nad yw ymwelwyr yn cael trafferthion i gyrraedd y Maes ar amser," medd llefarydd.
Mae anogaeth hefyd i bobl drefnu eu cludiant adref o flaen llaw er mwyn cadw eu hunain ac eraill yn ddiogel.

Ar drên
Erbyn hyn mae gwasanaeth Metro De Cymru yn weithredol yn yr ardal.
O fewn ardal Metro De Cymru bydd trenau ychwanegol yn ystod wythnos yr Eisteddfod a fydd yn rhedeg o Gaerdydd i Bontypridd tan ddiwedd y digwyddiad olaf bob nos.
Mae gorsaf drenau Pontypridd wedi’i lleoli pum munud ar droed o’r Maes, a 25 munud ar droed o Faes B.
Mae trenau'n rhedeg yn uniongyrchol o Gaerdydd Canolog i Ferthyr Tudful, Aberdâr a Threherbert, a phob un yn galw ym Mhontypridd.
Os ydych yn bwriadu teithio o Ben-y-bont ar Ogwr, Ynys y Barri, Penarth neu Rymni, bydd angen i chi newid yng ngorsafoedd Caerdydd Heol y Frenhines neu Gaerdydd Canolog.

Mae'r croeso yn fawr ym Mhontypridd, ond mae rhybudd i beidio â pharcio yn y dref
Ar fws
Mae nifer o gwmnïau bysiau’n rhedeg gwasanaethau cyson o wahanol rannau o’r Cymoedd a thu hwnt i’r orsaf fysiau yng nghanol Pontypridd, sydd rhyw dri munud o gerdded o’r Maes.
Mae modd gynllunio eich taith drwy ddefnyddio cynllunydd teithiau, dolen allanol Traveline Cymru.

Bydd bysiau gwennol yn rhedeg rhwng y maes parcio a’r Maes yn rheolaidd, gyda’r daith yn cymryd tua 20 munud
Beicio
Bydd digonedd o fannau i gloi beiciau y tu allan i ddwy fynedfa'r Maes.
Gyda Llwybr Taf mor gyfleus, mae trefnwyr yr Eisteddfod yn gobeithio y bydd ymwelwyr lleol (neu egnïol) yn dewis cerdded neu feicio i gyrraedd Pontypridd.
Mae llwybr ar gael i feicwyr o’r safle parcio a theithio yn Y Ddraenen-wen hefyd - felly mae modd dod â beic ar gefn neu yn y car a beicio i’r Maes ei hun.
Teithio o’r maes carafanau i’r Maes
Mae teithio o ben pellaf y safle i'r brif fynedfa yn llai na hanner milltir o bellter, gyda'r daith yn cymryd llai na 20 munud ar hyd llwybr diogel a phwrpasol i feicwyr a cherddwyr, gyda phalmant a golau stryd.
Bydd stiwardiaid wedi'u gosod ar hyd y llwybr.
Nid oes gwasanaeth bws gwennol yn rhedeg o'r safle i'r Maes eleni.

Nid oes gwasanaeth bws gwennol yn rhedeg o'r maes carafanau i'r Maes eleni
Gyrru i'r Brifwyl
Mae'r Eisteddfod yn annog ymwelwyr i rannu lifft er mwyn lleihau nifer y ceir.
Does dim meysydd parcio ceir arferol yn nhref Pontypridd yn ystod yr wythnos, felly mae angen defnyddio’r meysydd parcio a theithio yn hytrach na gyrru i mewn i’r dref.
Bydd bysiau parcio a theithio rheolaidd rhwng y meysydd parcio a’r Maes.
Bydd y rhain yn rhedeg drwy gydol y dydd o ddechrau’r bore tan ddiwedd y gweithgareddau ar y Maes, ac maen nhw am ddim gyda thocyn Maes.
Mae'r Eisteddfod yn annog ymwelwyr i archebu lle parcio a theithio ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod digon o fysiau ar gael i gludo pawb i’r Maes drwy gydol yr wythnos.
Mae modd archebu lle parcio a theithio yma, dolen allanol.

Mae dau faes parcio - y naill ar gyfer teithwyr o'r gogledd, a'r llall ar gyfer teithwyr o'r de
Dylai teithwyr o’r gogledd, a’r rhai sy’n teithio o gyfeiriad Merthyr Tudful barcio ym maes parcio’r gogledd yn Abercynon (cod post CF45 4UQ).
Bydd bysiau gwennol yn rhedeg rhwng y maes parcio a’r Maes yn rheolaidd gyda’r daith yn cymryd tua 20 munud, yn dibynnu ar draffig.
Lleolir y maes parcio ar gyfer ymwelwyr o Gaerdydd a’r de yn Y Ddraenen-wen (cod post CF37 5AL).
Fel uchod, bydd bysiau gwennol yn rhedeg rhwng y maes parcio a’r Maes yn rheolaidd, gyda’r daith yn cymryd tua 20 munud, yn dibynnu ar draffig.
Y cyngor yw i bobl ddilyn yr arwyddion pwrpasol oddi ar yr A470 i gyrraedd y ddau faes parcio.
Parcio bathodyn glas
Mae parcio cyfyngedig ar gyfer ymwelwyr anabl ar gael ym maes parcio Stryd y Santes Catrin yng nghanol Pontypridd (cod post CF37 2TB).
Rheolir y maes parcio hwn gan yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos, er mwyn sicrhau mai dim ond ymwelwyr gyda bathodyn glas sy’n gallu parcio yno.