Achub saith person a aeth i drafferthion ym Môr Iwerddon

- Cyhoeddwyd
Mae saith person mewn caiac wedi eu hachub ar ôl iddyn nhw fynd i drafferthion yn y tywydd garw ym Môr Iwerddon i'r gorllewin o Abergwaun.
Dywedodd Gwylwyr y Glannau Aberdaugleddau eu bod wedi derbyn rhybudd brys 15:30 brynhawn Sadwrn.
Cafodd criwiau achub yr RNLI o Abergwaun a Thyddewi eu galw, ynghyd â thimau achub Gwylwyr y Glannau o Abergwaun, Tyddewi a Dale.
Bu hofrennydd Gwylwyr y Glannau hefyd yn rhan o'r ymdrech i achub y bobl ar y môr.
Cafodd pob un eu hachub a'u cludo'n ddiogel gan griw RNLI Abergwaun ac nid oes unrhyw anafiadau wedi eu cofnodi.
Roedd y tywydd yn wael gyda rhybudd am wyntoedd cryfion wedi ei gyhoeddi ar gyfer Mor Iwerddon.