'Dylai'r GIG helpu osgoi mynd dramor am driniaeth colli pwysau'
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru gynnig mwy o lawdriniaethau sy'n helpu pobl i golli pwysau er mwyn atal y niferoedd sy'n teithio dramor, yn ôl ymgyrchwyr.
Ddydd Llun, daeth cwest yng Nghaernarfon i'r casgliad bod mam o Fangor wedi marw ar ôl teithio i Dwrci i leihau maint ei stumog.
Yn ôl rhai sydd wedi talu'n breifat am lawdriniaethau tebyg, mae'r triniaethau wedi "newid eu bywydau" ac maen nhw'n galw am wella dealltwriaeth o gyflyrau sy'n arwain at ordewdra.
Ond dweud mae Llywodraeth Cymru mai "dim ond ar gyfer pobl â gordewdra difrifol a chymhleth y caiff llawdriniaethau colli pwysau eu hystyried".
'Un deiet ar ôl y llall'
Wedi degawdau o geisio colli pwysau mi benderfynodd Bethan Antur, sy'n 59 ac o Lanuwchllyn, ei bod hi am gael llawdriniaeth tebyg.
Ond er iddi ddweud bod ei meddyg wedi cytuno, awgrymwyd iddi dalu'n breifat gan na fyddai'r gwasanaeth iechyd yn gallu cynnig hynny.
"Ers yn bymtheg oed dwi'n teimlo dwi 'di bod ar un deiat ar ôl y llall," meddai wrth Newyddion S4C.
"'Dach chi'n teimlo bo' chi'n colli pwysau, wedi rhoi o'n ôl 'mlaen ac yna 'dach chi'n trio deiat arall, mae'r pwysau'n dod lawr eto ond os 'dach chi'm yn cadw fyny mae'r pwysau yn ei ôl.
"Dwi'n typical yo-yo dieter dros fy mywyd i gyd."
Yn ôl Bethan roedd ei hunanhyder yn "dirywio" gan greu anawsterau iddi.
"Roedd 'na bethau o'n i'n gwrthod gwneud, fel peidio mynd i lefydd oherwydd o'n i'n teimlo'n anghyfforddus efo fi fy hun mewn ffordd," meddai.
Wedi blynyddoedd o geisio colli pwysau, mi benderfynodd felly i dalu am gastric bypass yn y Deyrnas Unedig - math o lawdriniaeth i leihau maint y stumog.
Mae hi'n dweud bod cael y llawdriniaeth wedi gwneud gwahaniaeth enfawr.
"Yn gorfforol dwi ddim ar unrhyw dabledi, ond yn feddyliol mae'r effaith 'di bod mwy gadarnhaol fyth," meddai.
"Dwi 'di dod nôl yn fi fy hun mewn ffordd, achos mae problemau bwyd... dydi pobl ddim yn deall."
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd
Yn ôl Bethan Antur, fe ddylai'r gwasanaeth iechyd gynnig mwy o driniaethau tebyg er mwyn i bobl allu osgoi teithio dramor i dderbyn llawdriniaethau.
Ddydd Llun daeth cwest yng Nghaernarfon i'r casgliad bod mam o Fangor, Janet Lynne Savage, wedi gwaedu i farwolaeth wrth dderbyn llawdriniaeth colli pwysau yn Nhwrci.
Un arall a deithiodd i Dwrci am lawdriniaeth ydy Iestyn Owen, sydd bellach yn byw yn Iwerddon.
Ar ôl colli 11 stôn roedd Iestyn am gael gwared o groen o'i fol, ond ag yntau'n wynebu un ai ffi o £15,000 i fynd yn breifat yn y DU neu flynyddoedd ar restr aros y GIG, mi benderfynodd deithio i Dwrci a thalu £5,000.
"Yn amlwg 'swn i wedi licio cael gwneud o'n agosach at adref," meddai.
"Ma'n llawndriniaeth hollol boenus ac o'n i ffwrdd yn bell mewn gwlad hollol ddiarth.
"Oedd Mam yn ffonio bob munud yn crio eisiau gwybod be o'n i'n 'neud.
"Ond eto, o'n i'n teimlo doeddwn i ddim isio bod yn fyrdwn ar y gwasanaeth iechyd felly i fi 'swn i licio bod 'na mwy o gymorth allan yna i bobl allu cael y llawdriniaeth yn agosach ac yn y wlad yma."
'Arbed i'r GIG nes ymlaen'
Dweud eto mae Bethan Antur y dylai'r Gwasanaeth Iechyd edrych eto, ac ystyried lawdriniaethau tebyg fel rhai "ataliol".
"Os 'dach chi'n rhoi llawdriniaethau ataliol fel hyn 'dach chi am arbed y gwasanaeth iechyd nes ymlaen," meddai.
"Mae angen dipyn mwy o ddealltwriaeth a chydymdeimlad o beth sy'n achosi gordewdra achos 'di o ddim yn syml o gwbl."
Dywed Llywodraeth Cymru mai "dim ond ar gyfer pobl â gordewdra difrifol a chymhleth y caiff llawdriniaethau colli pwysau eu hystyried".
"Mae'r llawdriniaethau, medd llefarydd, yn cael eu comisiynu "gan Bwyllgor Comisiynu ar y Cyd GIG Cymru i sicrhau mynediad teg a chyfartal at wasanaethau llawfeddygaeth".
Ychwanegodd bod "cymorth a thriniaethau eraill" ar gael, a'u bod yn annog unrhyw un sy'n "ystyried gofal iechyd preifat i wneud ymchwil trylwyr cyn cael triniaeth".