'Matriarch mawr' Caws Cenarth, Thelma Adams wedi marw yn 86 oed

Thelma Adams
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Thelma Adams yn berson caredig cynnes yn llawn angerdd, medd ei theulu

  • Cyhoeddwyd

Mae Thelma Adams, sylfaenydd Caws Cenarth, wedi marw yn 86 oed.

Fe ddaeth i sylw'r cyhoedd yn yr 1980au wedi iddi drefnu protest unigryw yn erbyn y cwotâu llaeth.

Eisteddodd yn hanner noeth mewn bath o laeth yn gwisgo wig steil Cleopatra gan ddod â thref Caerfyrddin i stop.

Enillodd sawl gwobr a chystadleuaeth yn sgil ei llwyddiant fel dynes o gefn gwlad mewn byd busnes.

Ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sul dywedodd ei theulu bod Thelma yn berson "caredig, cynnes, yn llawn angerdd" a fydd yn gadael "bwlch enfawr" yn eu bywydau.

Mae Caws Cenarth bellach ar gael yn rhai o siopau a bwytai gorau'r DU, gan gynnwys Harrods, Fortnum & Mason a Selfridges.

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Thelma Adams deitl Gwraig Ffermdy y Flwyddyn ym 1999

Cafodd Thelma Adams ei magu ym Mhant-y-blaidd ger Crymych mewn tŷ tafarn.

Roedd gwneud caws yn draddodiad teuluol, gan fynd yn ôl sawl cenhedlaeth yn ei theulu hi a'i gŵr.

Dechreuodd ei mam ddefnyddio llaeth oedd dros ben gan ddwy fuches i wneud caws.

Wrth siarad ar raglen Beti a'i Phobl yn 2017 dywedodd Thelma iddi ddechrau gwneud menyn ond doedd "dim delight yn creu menyn, caws oedd y peth", meddai.

Sefydlodd ei chwmni Caws Cenarth yn ystod yr 1980au gyda'i gŵr ar eu fferm Glyneithinog, yn Sir Gaerfyrddin.

Dechreuodd greu caws i'w theulu yn gyntaf, cyn mynd ati i ddechrau busnes ei hun.

Ym 1986 enillodd gystadleuaeth Edible Ideas ac ym 1999 enillodd deitl Gwraig Ffermdy y Flwyddyn.

Roedd Mrs Adams hefyd yn rhan o brosiect Dynamo Llywodraeth Cymru lle bu'n ymweld â sawl ysgol a choleg i ysbrydoli pobl ifanc i ddewis gyrfa ym myd busnes.

'Person caredig, cynnes, yn llawn angerdd'

Mewn datganiad ar Facebook, dywedodd ei theulu: "Rydyn ni, fel teulu, yn hynod o drist i gyhoeddi marwolaeth y ddiweddar Thelma Adams.

"Hi oedd matriarch mawr Caws Cenarth, a greodd y busnes ag angerdd a gweledigaeth ym 1986, yn sgil cwotâu llaeth a osodwyd ar y pryd, gan fygwth dyfodol fferm Glyneithinog.

"Rodd hi'n berson a fyddai o hyd yn meddwl tu allan y bocs.

"Mae'n galed cyfleu'r gwacter yng ngholled Mam, person caredig, cynnes, yn llawn angerdd a mae wedi gadael bwlch enfawr yn ein bywydau."

Pynciau cysylltiedig