'Cyffro' gweld pili-pala prin yn ail-gartrefu yng Nghymru

Mae Gwyn y Coed wedi cael ei gofnodi ar bedwar safle ym Mhowys yn ystod yr haf
- Cyhoeddwyd
Mae'n ymddangos bod un o'r glöynnod byw mwyaf prin yn y Deyrnas Unedig yn ail-sefydlu yng Nghymru, ddegawdau ar ôl i'r boblogaeth olaf ddiflannu yma.
Mae'r elusen Cadwraeth Glöynnod Byw, dolen allanol wedi cofnodi pili-pala Gwyn y Coed (Wood White) sydd o dan fygythiad, mewn pedwar safle ym Mhowys yr haf yma, gan gynnwys un benywaidd yn dodwy wyau.
Roedd y rhywogaeth yn arfer bod â phresenoldeb parhaol yn ne-ddwyrain Cymru, ond fe ddiflannodd ddegawdau yn ôl, a dim ond ambell gipolwg sydd wedi bod arno ers hynny.
Mae'r elusen yn credu bod y newydd-ddyfodiaid wedi dod o safleoedd dros y ffin yn Sir Amwythig, lle maen nhw wedi bod yn gwneud gwaith cadwraethol i gynnal poblogaeth Gwyn y Coed yn Lloegr.
'Newyddion gwirioneddol gyffrous'
Dywedodd Pennaeth Cadwraeth yr elusen yng Nghymru, Alan Sumnall ei fod yn "newyddion gwirioneddol gyffrous".
"Mae glöynnod byw wedi dioddef yn ddifrifol dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd gweithredoedd dynol, ond nawr mae gennym ni stori lwyddiant - rhywogaeth newydd yng Nghymru - ac yn fwy na hynny mae'n deillio o waith cadwraeth gwych gan ein tîm."
Cafodd y pili-pala ei weld gyntaf ar safle sy'n eiddo i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yng Nghoed Cefn-Graig ger Y Drenewydd ar 9 Mai 2025.
Ers hynny mae wedi cael ei weld ar dri safle arall, gan gynnwys dau o goedwigoedd CNC yn ardal Ceri, a Gwarchodfa Natur Roundton Hill gerllaw.
Mae gwirfoddolwyr bellach yn bwriadu cynnal arolygon pellach yn ystod Gwanwyn 2026, ac mewn cysylltiad gyda CNC i drafod rheoli'r gwrychoedd ar hyd ffyrdd ger safleoedd plannu coed.
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2023
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.