Cyhuddo dau o lofruddiaeth yn dilyn achos o drywanu yn Y Barri

Llun o Kamran AmanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kamran Aman yn 38 oed ac yn dad i un plentyn

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn ifanc wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn achos o drywanu yn Y Barri.

Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad ar Heol Y Barri ychydig cyn hanner nos, nos Lun 30 Mehefin.

Bu farw Kamran Aman, oedd yn 38 oed ac yn dad i un plentyn, yn y digwyddiad.

Fe gadarnhaodd Heddlu'r De fod dau ddyn 16 ac 17 oed o Lanilltud Fawr - na ellir eu henwi am resymau cyfreithiol - wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth.

Mae disgwyl i'r ddau ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Iau.

Digwyddiad Y Barri
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad ar Heol Y Barri nos Lun 30 Mehefin

Dywedodd y ditectif uwch-arolygydd Mark O'Shea: "Mae'n meddyliau gyda theulu a ffrindiau Kamran wedi'r digwyddiadau trasig nos Lun.

"Mae dau o bobl bellach wedi eu cyhuddo a dydyn ni ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

"Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu cefnogaeth a'r wybodaeth sydd eisoes wedi ei rannu."

'Gŵr ffyddlon, tad cariadus a mab arbennig'

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd teulu Mr Aman ei fod yn "ŵr ffyddlon, yn dad cariadus ac yn fab, brawd, ewythr a ffrind arbennig".

"Roedd Kamran yn galon i'r teulu, ac roedd y gymuned oll yn ei garu," meddai'r teulu.

"Daeth Kamran â chynhesrwydd a chryfder i bawb wnaeth ei groesi, ac fe fydd y golled yn gadael gwagle enfawr ym mywydau pawb oedd yn ei adnabod."

Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig