Cwblhau gwaith gwerth £60m i'r A40 yn Sir Benfro

Llun o'r awyr yn dangos y gwelliant i'r A40 yn Sir Benfro
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwelliannau i'r A40 wedi costio £60m

  • Cyhoeddwyd

Mae rhan o ffordd yr A40 yn y de-orllewin wedi cael ei hagor yn swyddogol yn dilyn gwelliannau gwerth £60m.

Mae'r uwchraddio i'r ffordd rhwng Llanddewi Felffre a Chroesffordd Maencoch yn dod â phedair blynedd o waith i ben - i wella cysylltedd yr ardal a lleihau tagfeydd.

Dechreuodd y gwaith adeiladu cyn penderfyniad Llywodraeth Cymru yn 2023 i ganslo prosiectau adeiladu ffyrdd a blaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus, beicio a cherdded.

Cafodd y ffordd ei hagor yn swyddogol gan y Prif Weinidog Eluned Morgan ddydd Gwener.

Dywedodd cyfarwyddwr cwmni lorïau MDS Distribution bod yr A40 newydd yn "oleuni ar ddiwedd y twnnel" wedi blynyddoedd o dagfeydd a gwaith ar y ffyrdd.

Ond mae Scott Mansel Davies yn galw am ragor o welliannau mewn mannau eraill ar rwydwaith ffyrdd de Cymru.

Y Prif Weinidog Eluned Morgan a'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates yn agor rhan o ffordd yr A40 yn swyddogol yn dilyn gwelliannau gwerth £60m
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ffordd ei hagor yn swyddogol gan y Prif Weinidog Eluned Morgan a'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates

Dyw'r ffordd newydd pedair milltir o hyd ger Arberth ddim yn un ddeuol, ond mae'n cynnwys mwy o leoedd i basio yn ddiogel.

Mae gwelliannau hefyd i gylchfannau, tra bod cyffyrdd newydd wedi'u hadeiladu yn Llanddewi Felffre a Chroesffordd Maencoch.

Gall traffig yr haf gynyddu 30% yn yr ardal, gyda thagfeydd y gwyliau yn elfen allweddol yn y penderfyniad i uwchraddio'r ffordd.

'Cyfnod cyffrous'

Yn ôl cadeirydd cyngor cymuned Llanddewi, Edward Howells, mae'n ddiwrnod mawr i'r pentref.

"Mae'n mynd i drawsnewid y pentref mewn nifer o ffyrdd. Fe fydd yn wahanol iawn. Dwi'n credu ein bod wedi dod yn fwy o gymuned nawr gan nad oes ffordd yn rhannu'r pentref.

"Bydd yn ychwanegu mwy o ddiogelwch i'r pentref. Bydd yn llawer saffach i gerdded drwy'r pentref a gallwn ni wneud llawer mwy o bethau cymunedol fel pentrefi eraill, pethau nad oedden ni'n gallu eu gwneud yn y gorffennol oherwydd y ffordd gyflym gyda lorïau mawr - mae'n sicr yn gyfnod cyffrous."

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y gwaith yn lleihau amseroedd teithio ac yn gwella mynediad at atyniadau twristaidd.

Y gobaith hefyd yw y bydd canolfannau economaidd fel Parth Menter yr Hafan yn elwa, ynghyd â phorthladdoedd Abergwaun, Aberdaugleddau a Doc Penfro.

Dyn gyda gwallt melyn yn gwisgo crys las, o flaen cerbyd coch a gwyn gyda logo MDS Distribution
Disgrifiad o’r llun,

"Roedd angen y gwelliant yn bendant," meddai Scott Mansel Davies o gwmni cludo MDS Distribution

Dywedodd Scott Mansel Davies - cyfarwyddwr cwmni cludo MDS Distribution - ei fod yn "croesawu unrhyw fuddsoddiad yn yr hewlydd".

"Roedd angen y gwelliant yn bendant," meddai.

Dywedodd bod "yr haf yn waeth byth ar yr heol hyn, oherwydd holiday makers yn dod i lawr i'r ardal".

"Ond dwi'n gobeithio nawr, gyda rhannau o'r heol sy' gyda lleoedd i basio, bydd e yn well i ni fel cwmni ac yn lleihau traffig."

Ond ychwanegodd fod angen gwelliannau mewn mannau eraill ar rwydwaith ffyrdd de Cymru, gydag angen o hyd am ffordd osgoi twneli Bryn-glas yn ardal Casnewydd.

"Mae'n dagfa. Ar ddiwedd y dydd, mae tair lôn yn mynd i ddwy," meddai.

"Mae llawer o draffig yn dod i mewn i Gymru, ac mae'n fater sydd angen mynd i'r afael ag e."

Clive Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae Clive Edwards o gwmni Bysiau Cwm Taf yn falch o weld y gwaith ar yr A40 yn dod i ben

Er y cafodd pob prosiect adeiladu ffyrdd ei ganslo dan arweinyddiaeth Mark Drakeford, mae'r gweinidog trafnidiaeth presennol, Ken Skates, wedi dweud bod modd ystyried rhai cynlluniau pe baen nhw'n "adlewyrchu realiti'r argyfwng hinsawdd".

Fodd bynnag, mae'n dweud bod unrhyw gynlluniau ar gyfer ffordd osgoi o amgylch Casnewydd wedi "dod a mynd" erbyn hyn.

Ar hyd yr A40 newydd mae optimistiaeth wedi blynyddoedd o aflonyddwch.

"Mae wedi'i wneud. Diolch bod e wedi gorffen, a gadewch i ni weld sut mae'n mynd," meddai Clive Edwards o gwmni Bysiau Cwm Taf.

Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen "at ryw fath o normalrwydd, ac yn gobeithio y bydd popeth yn gweithio'n ddiogel unwaith y bydd y gwelliannau wedi'u gwneud".