'Mynd adref i Rwsia fel bod mewn ffilm bropaganda'

Elena ar ei hymweliad diweddaraf â Moscow yn 2024 - mae hi'n ceisio dychwelyd bob chwe mis
- Cyhoeddwyd
Mae'r Athro Elena Parina, yn wreiddiol o Rwsia, wedi treulio blynyddoedd yn gwneud ymchwil i'r iaith a llenyddiaeth Gymraeg.
Bellach yn byw yn yr Almaen, mae wedi bod yn sôn am ei phrofiad o deithio'n ôl adref i Rwsia yn ystod y rhyfel.
Fe ymwelodd â ffrindiau a theulu'n ddiweddar lle cafodd gyfle i brofi bywyd yno ers i'r rhyfel ag Wcráin ddechrau.
Bron i dair blynedd ers dechrau'r rhyfel, mae trafodaethau yn digwydd ar hyn o bryd rhwng y ddwy wlad a gwledydd y gorllewin.
Nadolig bob dydd?
"Mae bywyd yn Moscow yn wahanol iawn i unrhyw le arall yn Rwsia – mae'n dal i fod yn ofnadwy o foethus a chyflym," meddai Elena Parina wrth siarad ar Dros Frecwast.
"Does dim llawer o agweddau bod 'na ryfel, ar wahân i bosteri sy'n galw ar ddynion i dderbyn cytundeb i'r fyddin am amodau atyniadol iawn.
"Y peth syfrdanol i fi oedd gweld addurniadau Nadolig cyfoethog ym mis Chwefror, ac addurniadau blwyddyn newydd Chineaidd.
"Mae'n debyg bod hyn yn fwriadol. Mae'n ymdrech i greu argraff o gyfoeth, o ddathlu parhaol, o lawenydd – tipyn bach fel be' 'dych chi'n gweld mewn ffilmiau propaganda Sofietaidd."

Addurniadau Nadolig ar stryd Moscow, a choed Nadolig wrth gofeb Dostojewski
Rhywbeth arall mae Elena'n ei nodi yw bod pobl ddim yn siarad am wleidyddiaeth.
Yn yr adegau prin pan fydd pobl yn sgwrsio am y sefyllfa yn y wlad, dywedodd mai crio a chwyno gyda'i gilydd wna'r rhai sy'n gytûn, ac nad oes unrhyw ffordd o newid meddyliau pobl sydd ddim yn rhannu'r un farn â chi.
Felly yn aml iawn, bydd pobl yn osgoi siarad am y pynciau yn gyfan gwbl.
"Mae dweud dy farn yn beryglus iawn erbyn hyn. Mae pobl yn mynd i'r carchar am negeseuon Facebook ac ati," meddai.
"Dwi'n syfrdanu ac yn ddiolchgar iawn i'r rhai sy'n aros yn Moscow ac a aeth i'r bedd; Alexei Navalny, er enghraifft.
"Ar wahân i weithredoedd fel hyn, does dim llawer o bosibilrwydd i ddweud barn.
"Mae dipyn bach yn debyg i sefyllfa fy mhlentyndod Sofietaidd – does dim gwybodaeth go iawn ar y teledu."

Bu farw Alexei Navalny ar 16 Chwefror 2024 mewn carchar yn Yamalo-Nenets yng Ngorllewin Siberia – roedd yn arwain gwrthblaid yn Rwsia ac yn ymgyrchu yn erbyn y llywodraeth
Pan roedd Elena yn blentyn, at y BBC a radio Deutsche Welle y byddai'r Rwsiaid yn troi.
Ond erbyn hyn mae modd defnyddio VPN i gyrraedd sianeli YouTube rhai o'r newyddiadurwyr sydd wedi ffoi o Rwsia, meddai.
"Mewn gwlad heb etholiadau go iawn, heb bolau piniwn go iawn [dim ond] pa beth bynnag a ddyweda'r propaganda, mae'n anodd iawn i wybod beth mae pobl gyffredin yn feddwl."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2024