Dyn o Flaenau Ffestiniog adref ar ôl 'hunllef' mewn carchar yn Affrica

Paul InchFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Paul Inch ddychwelyd i Gymru ddydd Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Flaenau Ffestiniog a dreuliodd dros 100 diwrnod mewn carchar yng ngorllewin Affrica wedi dychwelyd adref ar ôl "profiad gwaethaf fy mywyd".

Cafodd Paul Inch, 50, a'i gydweithiwr Richard Perham, 29 o Fryste, eu cyflogi gan gwmni i fynd i Guinea i ganfod balŵn ymchwil oedd wedi dod i lawr yno.

Ond cafodd Mr Inch a Mr Perham - arbenigwyr ar chwilio ac adfer eitemau o'r fath - eu harestio a'u cyhuddo o ysbio.

Roedd y ddau i fod yn y wlad am bedwar diwrnod, ond yn y pendraw fe dreulion nhw 142 diwrnod yno - y mwyafrif o'r rheiny yn y carchar.

"O'dd o'n ddychrynllyd - profiad gwaethaf fy mywyd," meddai Mr Inch.

'Profiad hir'

Fe wnaeth yr Arglwydd Collins, Gweinidog Swyddfa Dramor sy'n gyfrifol am Affrica, groesawu'r ffaith bod y ddau wedi dychwelyd adref ar ôl eu "profiad hir" yn Guinea.

Dywedodd y cwmni wnaeth gyflogi Mr Inch a Mr Perham eu bod yn "ddiolchgar" bod y ddau wedi cael eu dychwelyd adref yn ddiogel.

Ond ni wnaeth y cwmni ymateb i gwestiwn gan BBC Cymru yn holi pam na chafodd y cwmni y ddogfennaeth gywir cyn anfon y dynion i Guinea.

Mae BBC Cymru wedi cysylltu â'r awdurdodau yn Guinea am sylw.

Paul Inch a CherylFfynhonnell y llun, Cheryl Potter
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd partner Paul Inch, Cheryl Potter, fod "pob dydd wedi bod yn frwydr barhaus yn poeni amdano fo"

Mae Mr Inch yn gweithio fel tywysydd beicio mynydd a swyddog diogelwch dŵr, ac mae hefyd yn gwirfoddoli gyda thîm Achub Mynydd Aberglaslyn.

Eglurodd eu bod nhw'n credu bod ganddyn nhw'r "caniatâd cywir i fod yno", ond eu bod yna wedi sylweddoli "bod ganddon ni ddim".

"Roeddan ni mewn llys, ac yna fe gafon ni wybod 'dach chi'n mynd i'r carchar'."

Yn siarad ar BBC Radio Wales fore Llun, dywedodd eu bod "wedi cael ein bygwth efo pob math o drais" yno.

Dywedodd fod yr amodau yn y carchar yn "ofnadwy", gyda 80 o ddynion yn rhannu toiled a chawod.

"Tra'n cysgu roeddan ni'n cael llygod, llygod mawr a cockroaches yn cropian dros eich corff chi," meddai.

Ychwanegodd bod y dŵr mor fudr eu bod yn gorfod ymolchi gyda diheintydd, a'u bod yn poeni am fynd yn sâl.

'Ofni am ein bywydau pob dydd'

Dywedodd Mr Perham: "Yn llythrennol roedden ni'n ofni am ein bywydau pob dydd.

"Ar ôl bod yno am ddeufis, roedd llysgennad y Deyrnas Unedig yno yn cerdded ni tuag at giatiau'r carchar - roedden ni'n cael ein rhyddhau o'r diwedd - ond fe gafodd hynny ei atal gan alwad ffôn i'r erlynydd.

"Roedd rhaid i ni droi am yn ôl a cherdded yn syth yn ôl i mewn am fis arall. Roedd o'n ofnadwy."

Hyd yn oed ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau o garchar Conakry ym mhrifddinas Guinea ar 11 Ebrill, roedden nhw'n sownd yn Guinea am 42 diwrnod arall.

Dywedodd partner Mr Inch, Cheryl Potter, wrth Radio Wales bod "pob dydd wedi bod yn frwydr barhaus yn poeni amdano fo".

Richard PerhamFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Richard Perham y bu'r ddau yn "ofni am ein bywydau pob dydd"

Mae Mr Inch yn diolch i'w gefnogwyr, Llysgenhadaeth Prydain a'i Aelod Seneddol lleol, Liz Saville Roberts, am eu help i gyrraedd adref.

Dywedodd Liz Saville Roberts fod y cwmni oedd wedi cyflogi'r ddau wedi rhoi gwybod i awdurdodau Guinea bod gan "Richard a Paul ddim rôl gyda'r balŵn, dim gwybodaeth am ei gynnwys technegol, a ddim yn rhan o'i hedfan na'i ddisgyniad".

Dywedodd mai rôl "logistaidd yn unig" oedd gan Mr Inch a Mr Perham, yn ceisio adfer yr offer, ac "roedden nhw ar ddeall bod ganddyn nhw'r holl ganiatâd oedd ei angen".

"Mae hyn wedi bod yn hunllef i'r ddau ddyn a'u teuluoedd a'u ffrindiau," meddai.

Pynciau cysylltiedig