Dyn wedi gyrru am fis heb ddeial cyflymder cyn anafu dau

Clywodd y llys bod Priestley yn gweld ei gerbyd Land Rover "fel tegan" (llun stoc)
- Cyhoeddwyd
Mae dyn ifanc wedi osgoi cyfnod o garchar ar ôl gyrru ei Land Rover am o leiaf fis gyda deial cyflymder (speedometer) oedd ddim yn gweithio ac achosi gwrthdrawiad difrifol.
Clywodd llys bod Geraint Priestley, 21, yn gweld y car "fel tegan" cyn y gwrthdrawiad ger Pwllheli ar ddydd Gŵyl San Steffan 2022.
Dim ond y mis Gorffennaf blaenorol oedd y dyn, o Forfa Nefyn yng Ngwynedd, wedi pasio ei brawf gyrru.
Fe wnaeth y Land Rover wyro i lwybr car Peugeot gan achosi anafiadau i ddau berson.
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, fe ddywedodd y Barnwr Niclas Parry eu bod nhw'n "dal i ddioddef sgil effeithiau'r gwrthdrawiad".
Ychwanegodd bod y dyn ifanc wedi colli rheolaeth o'i gerbyd a bod ei "anaeddfedrwydd wedi cyfrannu tuag at ei agwedd ddi-hid at ddiogelwch ffordd".
Y dyn ifanc 'wir yn difaru'
Clywodd y llys bod Priestley wedi bod yn gyrru'r cerbyd heb wybod y cyflymder am o leiaf mis, er bod ei rieni wedi dweud wrtho am beidio â gwneud hynny.
Fe wnaeth Priestley bledio'n euog i achosi anaf difrifol drwy yrru'n ddiofal.
Dywedodd cyfreithiwr yr amddiffyniad, Elen Owen, fod Priestley wirioneddol yn "difaru" yr hyn a wnaeth i Paul a Linda Baker ac un person arall.
Dywedodd bod y Land Rover wedi taro ochr y ffordd ar ôl mynd rownd tro yn y lôn. Nid dim ond cyflymder oedd achos y gwrthdrawiad, meddai.
Cafodd Priestley ddedfryd o 10 mis o garchar, wedi ei gohirio am 18 mis, a gorchymyn i wneud 200 o oriau o waith yn ddi-dâl.
Cafodd hefyd ei atal rhag gyrru am 16 mis.