Menyw wedi ei tharo gan gar wrth fynd â chi am dro

Aeth y fenyw yn sownd o dan y car ar ôl cael ei tharo
- Cyhoeddwyd
Mae menyw yn yr ysbyty ar ôl cael ei tharo gan gar wrth fynd â chi am dro yng Nghasnewydd fore Llun.
Aeth y fenyw yn sownd o dan y car ar ôl cael ei tharo, a bu'n rhaid i'r gwasanaeth tân ei thorri'n rhydd.
Mae hi bellach mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.
Dywedodd yr heddlu fod y bobl a oedd yn teithio yn y car - Volkswagen Passat arian - wedi gadael y lleoliad cyn iddyn nhw gyrraedd yno.
Roedd y gwasanaethau brys wedi cael eu galw i'r digwyddiad ar Rowan Way yn ardal Malpas y ddinas am 06:35.
Cafodd y ci ei anafu yn y digwyddiad hefyd, meddai'r heddlu, sy'n apelio am wybodaeth.