'Amser Wyna': Arddangos eto ar ôl saib

Eleri Jones gyda rhan o'i harddangosfa 'Amser Wyna'
Disgrifiad o’r llun,

Eleri Jones gyda rhan o'i harddangosfa 'Amser Wyna'

  • Cyhoeddwyd

Mae’r artist Eleri Jones o Ddyffryn Conwy wedi penderfynu arddangos ei gwaith celf dan y thema ‘Amser Wyna’ am y tro cyntaf ers 13 mlynedd.

Yn ei harddangosfa yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, mae’n olrhain hanes ei magwraeth ar fferm Penoros yn Nhrofarth, Dyffryn Conwy drwy brintiau a gwaith cyfrwng cymysg.

Ond dyw penderfynu arddangos ei gwaith unwaith eto heb fod yn hawdd i’r fam i dri a gollodd ei gŵr, y naturiaethwr Rhodri Dafydd ac un o banelwyr Galwad Cynnar ar Radio Cymru i ganser ym mis Mai 2020.

Esboniai ar raglen Ffion Dafis ar Radio Cymru: “Mae’r ferch (Mabli) yn 13 erbyn hyn, o’n i’n disgwyl hi yn yr arddangosfa unigol ddwetha’ ges i.

“Dwi’m ’di cael llawer o amser i drefnu arddangosfeydd yn y ddeuddeg blynadd dwetha. Mae’n amser cyffrous dwi’n meddwl. Dwi’n edrych ’mlaen at weld ymateb pobl.

“Dwi’m yn siŵr be fasa Rhodri yn feddwl o’r arddangosfa ond oedd o o hyd yn deud fod o’n licio prints du a gwyn fi felly dwi’n meddwl 'sa fo reit falch o weld y gwaith du a gwyn yma,” ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Eleri yn ei gweithdy yn Llanrwst

Amser wyna yn ysbrydoli

Bellach yn byw yng Nghapel Garmon, lle mae’r gymuned amaethyddol yn parhau’n glos a’r ŵyn bach yn prancio’n y caeau ar hyn o bryd, roedd yn bwysig i Eleri ei bod yn dogfennu prysurdeb amser wyna a “bywyd go iawn”.

Meddai: “Yn aml iawn mae artistiaid wedi dogfennu byd amaeth mewn ffordd ddramatig, y ffermwr fyny ar y mynydd yn y gwynt, yn ei tweeds.

“Tydi hynna ddim yn dangos bywyd go iawn; dwi isio dangos y gwaith calad, y budreddi, gwaith budr, blinedig, dragwyddol. Dyna ydy byd ffermio.

“Dwi’n berson eitha gweithgar felly dwi’n gobeithio fod y gwaith yn cyfleu y prysurdeb yna o waith caled ffermio.”

Disgrifiad o’r llun,

'Miri a'r ŵyn'

Pam fod wyna yn ei hysbrydoli i greu celf?

“Mae’r gwaith yma amdan amser wyna ar ffarm fy nhad a ’mrawd. Gan ’mod i wedi cael fy magu ar fferm a mae mhlant i’n mynd draw i chwarae ar y ffarm o hyd, mae o’n ran anferth o’r hyn sy’n dylanwadu arna i fel artist."

O’r calch fyddai’n gorwedd oddi dan y defaid a’r ŵyn yn y sied yn Penoros, i’r tywydd, offer ffermio ei thad a’i ddyddiaduron, mae’r cyfan wedi ei hysbrydoli ac yn ganolog i’w gwaith.

“Dwi’n licio darlunio’n syth ar y wal, o’n i’n deud wrth Dad, dwi’n cofio fel plentyn defnyddio’r calch oedd yn cael ei ddefnyddio o dan y defaid a’r ŵyn a gwneud lluniau ar waliau'r sied.

“Mae o 'di cychwyn wbath mae’n rhaid achos dwi wrth fy modd yn gwneud llunia' mawr.”

Disgrifiad o’r llun,

Amser wyna yn Nyffryn Conwy

Dyddiaduron ei thad

Yn ogystal â’r gwaith celf sydd wedi eu creu o ddeunyddiau amrywiol gan gynnwys inc, sialc, pensel, paent, print a graffit, elfen unigryw arall o’r arddangosfa yw dyddiaduron ei thad.

Eleri sy’n egluro’r arwyddocâd:

“Mae Dad wedi caniatáu i fi fenthyg casgliad o’i ddyddiaduron o 1967.

“Mae’r dyddiaduron ’ma yn rhan fawr o mywyd i. Dwi’n cofio gweld Dad yn ’sgwennu ddiwadd bob dydd, be’ oedd y diweddara' oedd yn digwydd ar y ffarm a ballu.

Disgrifiad o’r llun,

Y dyddiaduron sy'n rhan o'r arddangosfa

“Maen nhw llawn patrwm dyddiol ffermio ond hefyd hanes y teulu, lot o wybodaeth amdan y tywydd, newid yn yr hinsawdd a ballu.

“Oedd Dad methu dalld pam ’mod i isio arddangos nhw ond o ran cofnod hanesyddol, dwi’n gweld nhw'n hynod ddiddorol.

“Hefyd dwi’n methu gweld llawysgrifan pobl. ’Dan i gyd yn ’neud popeth ar ein ffôns. Mae gweld rwbath 'di sgwennu eto yn hyfryd. Mae ’na rwbath amdan llawysgrifan fy nhad sydd yn agos ata i.”

Disgrifiad o’r llun,

'Sied ddefaid'. Mae geiriau o ddyddiaduron ei thad yn rhan o'r darlun.

Teulu'n cydweithio

Yn ôl Eleri, pwrpas ei harddangosfa yw dangos sut mae amaethwyr yn cyd-dynnu a chyd-weithio yn ystod cyfnodau prysura'r calendr amaethyddol fel wyna.

Dyna’r neges ddyfnach tu ôl i’w darluniau o fywyd bob dydd:

“Dwi wedi dod ag elfennau o’r ffarm i mewn i’r gwaith celf rili a sôn am y petha bob dydd sy’n digwydd ar y ffarm; ffidio ŵyn, chwalu gwellt a chario tail.

“Maen nhw yn ad hoc ond hefyd am sut mae’r teulu'n dod at ei gilydd amser wyna, fy nhad a’m mrodyr a mam yn cydweithio efo’i gilydd.”

Disgrifiad o’r llun,

Un o'r darluniau sy'n rhan o'r arddangosfa

Sut deimlad yw arddangos am y tro cyntaf ers 13 o flynyddoedd?

“O’n i ’chydig yn nerfus, ’dach i’n rhoi eich hun yn agored drwy roi petha ar y wal.

"Dwi’n gobeithio fydd y gwaith yn destun siarad, sut mae ffermio wedi newid dros y blynyddoedd a phwysigrwydd fod o dal yn waith mae teuluoedd yn ’neud efo’i gilydd."

Bydd yr arddangosfa 'Amser Wyna' yng Nghanolfan Grefft Rhuthun tan Mehefin 30 2024.