Esther Eckley: Newid byd i beintio yn Awstralia

  • Cyhoeddwyd
Esther yn peintioFfynhonnell y llun, Esther Eckley

O fyd PR yn Aberystwyth i fod yn arlunydd llawn amser yn Awstralia, mae Esther Eckley wedi gweld newid gyrfa a bywyd yn y 10 mlynedd diwethaf.

Erbyn hyn mae Esther, sy'n wreiddiol o'r Bala, yn arddangos ei gwaith mewn galerïau yn Awstralia ac hefyd yn un o arddangosfeydd celfyddydol mwya'r wlad sef Sydney Contemporary.

Roedd peintio wedi bod yn hobi erioed, fel mae Esther yn esbonio, ond doedd hi byth wedi dychmygu byddai'n gallu bod yn yrfa: "Oedd o'n hobi, o'n i'n gwneud o unrhyw amser o'n i'n gallu cael.

"O'n i'n gwybod fuaswn i o hyd yn dod nôl ato fo. Dwi wedi bod yn peintio llawn amser ers rhyw saith mlynedd ers i fi fod yma yn Awstralia.

"O'n i wedi dechrau peintio yn 2004 ar ôl i fi gael anaf penglin."

Rygbi

Digwyddodd yr anaf difrifol mewn gêm rygbi pan oedd Esther yn chwarae dros Gymru yn erbyn yr Alban yn 2004.

Meddai: "Ar y pryd rygbi oedd popeth i fi so oedd hwnna'n eitha trawmatig.

"Ond ti'n dod trwyddi ac y peintio oedd y peth. Oedd o i'r gwrthwyneb i rygbi achos ti ddim yn symud.

"Falle o'n i angen bod yn llonydd, falle o'n i angen just bod efo fi fy hun.

"Roedd gweld mod i'n oce, mae 'na rhywbeth arall heblaw am rygbi. A ti'n gallu gwneud hyn. Ar y pryd o'n i ddim yn meddwl amdano fel gyrfa, oedd o just yn rhywbeth ar yr ochr.

Ffynhonnell y llun, Esther Eckley
Disgrifiad o’r llun,

Un o luniau Esther

"Mae'n hyfryd a bod ti'n gallu cael yr hyblygrwydd i weithio o adref - oedd o'n newid byd saith mlynedd yn ôl pan oedd y plant yn fach. O'n i'n mynd i allu trio mynd amdani go iawn fel artist."

Wedi cyfnod yn Sydney, mae Esther a'r teulu wedi byw yn Armadale, Awstralia ers tua chwe blynedd gyda Sion ei gŵr yn gweithio i'r llywodraeth yno.

Ffynhonnell y llun, Esther Eckley
Disgrifiad o’r llun,

Esther a'i gŵr Sion

Mae Esther wedi dangos ei gwaith mewn nifer o galerïau yn Awstralia gan gynnwys galeri Michael Reid.

Meddai: "Dwi efo dau brif galeri - dwi'n hynod o ddiolchgar amdanyn nhw achos mae'n eitha' anodd i fynd mewn iddyn nhw.

"Mae Michael Reid efo sawl galeri ac yn adnabyddus yn y byd celf."

Uchafbwynt gyrfa

Ac roedd 2022 yn flwyddyn arbennig iawn i Esther, fel mae'n dweud: "Dwi 'di bod i Sydney Contemporary am dair blynedd efo Michael Reid - blwyddyn diwethaf yw'r tro cyntaf i'r lluniau fod ar stondin yn Sydney Contemporary (oherwydd y cyfnod clo).

"Mae Sydney Contemporary yn beth mawr - mae pob artist o Awstralia eisiau bod yn fan 'na. Mae pob galeri yno ac maen nhw'n talu ffortiwn i fod yno - hwnna ydy'r pinacl o 'ngyrfa i.

"Oedd o'n arbennig iawn, 'nath y teulu i gyd fynd yna ac oedd o'n dipyn o beth i weld dy waith ar y wal, oedd o'n sbeshal."

Ffynhonnell y llun, Esther Eckley
Disgrifiad o’r llun,

Mewn arddangosfa o waith Esther

Beth yw'r peth gorau am fod yn artist?

Meddai Esther: "Roedd mynd yn artist llawn amser saith mlynedd yn ôl yn drobwynt mawr yn fy mywyd i.

"Cael y rhyddid i neud beth bynnag wyt ti isho neud - bod ti ddim yn gaeth i orfod mynd i'r gwaith bob dydd. Mae wedi bod yn bleser i wneud hynna, a ddim neud swydd 9 tan 5 mewn swyddfa."

Ffynhonnell y llun, Esther Eckley

Arddull

Mae arddull Esther wedi datblygu dros y blynyddoedd ac mae'n arbenigo mewn lluniau bywyd llonydd erbyn hyn, sy'n dipyn o newid o'i gwaith cynnar: "Mae'r gwaith o'n i'n neud yng Nghymru yn eitha' tywyll a thrwm - beth o'n i'n mynd trwy ac falle o'n i'n trio bod yn ddwys a trio defnyddio'r lliwiau tywyll yma.

"O'n i ddim yn y modd i beintio pethau lliwgar. Ond mae wedi newid.

"Mae'r golau yma, mae gymaint goleuach, dwi fel person hefyd yn ysgafnu, o'n i'n eitha serious a dwys.

"Ac falle oedd yn dangos ei hun yn y lluniau. Dwi'n grediniol hefyd bod o i wneud efo fi'n ysgafnu fel person wrth heneiddio a pheidio poeni am beth mae pobl yn meddwl am liwiau.

"Mae'n braf peintio lot o bethau achos mae pobl yn licio rhoi ti mewn pigeonhole a mae rhywun isho neud mwy na hynna."

Sut mae bywyd yn Awstralia yn cymharu â Chymru?

Meddai Esther: "Y tywydd ydy'r gwahaniaeth mawr. Mae'n neis i gael lot o haul yn ystod y gaeaf. Mae'n hyfryd. Dwi'n colli lot o bethau am adra - gwyrdd y caeau, ti ddim yn cael yr un lliw gwyrdd fan 'ma, yn enwedig pan yn mynd drwy'r sychder mawr.

"Yn amlwg y bobl - ti'n colli siarad a phobl, colli dy ffrindiau. Mae 'na hiraeth mawr.

"Falle bydda i'n peintio llefydd o Gymru nesaf - sa fe'n neis i neud arddangosfa o Gymru yn fan 'ma. Dwi'n siŵr fod 'na lot o lefydd lle nad ydy'r bobl lleol wedi gweld."

Ffynhonnell y llun, Esther Eckley

Pynciau cysylltiedig