Ai dyma'r oen trymaf yng Nghymru?

Oen anferthFfynhonnell y llun, Meilir Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Meilir Jones ei fod wedi cael ŵyn mawr o’r blaen, "ond dim byd tebyg i’r boi bach yma”

  • Cyhoeddwyd

Mae ffermwr o Bowys yn dweud nad yw wedi gweld "dim byd tebyg" o'r blaen ar ôl i oen gael ei eni'n pwyso 16 cilogram.

Ar y Bwletin Amaeth ar Radio Cymru fore Mercher, bu Meilir Jones yn sôn am ei syndod pan ddaeth yr oen ar y fferm yn Llangadfan fore Sul.

Mae’r oen dros dair gwaith maint oen arferol, sydd tua pum cilogram, ac yn pwyso yr un faint â phlentyn tair neu bedair oed.

Roedd adroddiadau o oen 11 cilogram yn cael ei eni yng Nghymru rai blynyddoedd yn ôl, a dywedodd Mr Jones bod yr oen ddiweddaraf yn "record i fi, beth bynnag!".

Yn ôl Mr Jones, fe sylwodd bod y ddafad yn dechrau wyna fore Sul cyn mynd ati i borthi’r defaid, ac roedd yn ymwybodol ei bod yn cario un oen.

“Weles i ei draed o’n sticio allan a’i drwyn o, ac o’n i’n meddwl, mae’n dod ffordd reit, so wnes i drio helpu hi gael o allan.

“Wnes i jyst rhoi fy llaw i fewn yn y ddafad a dechrau teimlo’r oen 'ma a meddwl ‘mae hwn yn dipyn o seis’!

“Ges i’r ddwy goes allan a ddoth y pen allan yn ddim problem. 'Di o siŵr ddim mor fawr â hynny, os 'di ben o’n gallu dod allan’, o’n i’n meddwl.

“Nes i gychwyn tynnu a tynnu a tynnu... a ddoth o allan fel lwmp mawr; godes i o fyny ac o’n i’n gw'bod yn iawn bod hwn yn dipyn o oen.

“Wnes i bwyso fo ac roedd y cloc yn deud 16 cilogram... massive!"

Doedd Meilir ddim wedi cael unrhyw arwydd bod y ddafad yn cario oen mor fawr.

“Swn i’n disgwyl o 'se ni pedair wythnos fewn i wyna, gan bo ni’n feedio’r defaid i gychwyn ffwrdd a fyny tan mae nhw jyst di wyna, ond ni 'mond newydd ddechre wyna wythnos yma felly o’n i ddim yn disgwyl iddo fod yn oen mor fawr â hynny.”

Dywedodd iddo gael sioc bod y ddafad "di bod yn cuddio’r oen mawr 'ma tu fewn iddi".

“O’n i’n lwcus bod yr oen 'di dod ffordd reit...

"O’n i’n hen ddigon ffyddiog y bydde’n dod allan. Os fyswn i ddim yn ffyddiog, byswn i di ffonio’r fet a gadael i’r professionals wneud eu job a cael o allan cyn i bethe fynd o chwith.”

'Mae'n record i fi'

Dywedodd Recordiau Byd Guinness nad ydyn nhw'n cofnodi pwysau ŵyn er mwyn cadarnhau a oedd yr oen yn record newydd.

Ond yn ôl Mr Jones: “Mae’n record i fi, beth bynnag!

"Dwi 'di cael ŵyn mawr o’r blaen, yn y gorffennol, ond dim byd tebyg i’r boi bach yma.”

Yn dilyn y sioc, dywedodd mai'r "peth gorau ydi oedd dim byd di mynd yn 'rong, fe ddoth o’n reit, mae’r ddafad a’r oen yn fyw so ‘na’r peth mwya pwysig, dwi’n meddwl".

Ac a fydd enw i'r oen newydd?

“Mae gen i ambell enw di popio fyny yn fy mhen, rhywbeth sy’n mynd i matcho personality’r oen, dwi’n meddwl, rhywbeth fel Rocky falle? Mi geith o enw."

Nid maint yr oen ond nifer yr wyn oedd y syrpreis ar fferm ger y Bala y llynedd.

Fe ddaru Erin Fflur McNaught gael gael "sioc enfawr" wedi i ddafad roi genedigaeth i chwe oen bach holliach.

Pynciau cysylltiedig