Cymeradwyo astudiaeth o addysg ôl-16 yn sir Ceredigion

Ysgol Bro Pedr, Ysgol Penweddig a Ysgol Bro Teifi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bro Pedr, Penweddig a Bro Teifi yn rhai o'r ysgolion allai golli eu chweched dosbarth

  • Cyhoeddwyd

Bydd cynghorwyr sir yn edrych yn fanylach ar gynlluniau posib i gau pob chweched dosbarth yng Ngheredigion.

Ddydd Mawrth, fe gymeradwyodd cabinet Cyngor Ceredigion gynlluniau i gynnal astudiaeth dichonoldeb ar addysg ôl-16 yn y sir.

Daw yn dilyn adolygiad o addysg chweched dosbarth sy'n edrych ar opsiynau cynaliadwy i'r dyfodol, ar ôl gostyngiad yn nifer y myfyrwyr.

Bydd Gwasanaethau Ysgolion a Dysgu Gydol Oes yn edrych yn benodol ar ddau opsiwn.

Ergyd i gyllid

Ar hyn o bryd, mae gan chwech o ysgolion uwchradd Ceredigion chweched dosbarth.

Rhwng 2014/15 a 2020/21, gostyngodd nifer y dysgwyr blwyddyn 12 yn y sir o 535 i 390.

Oherwydd hynny, mae Ceredigion yn derbyn £273,000 yn llai gan Lywodraeth Cymru ar gyfer addysg ôl-16.

Dyma'r gostyngiad mwyaf i unrhyw awdurdod yng Nghymru.

Mae'n cael ei amcangyfrif fod y gost o gynnal cyrsiau chweched ddosbarth yn 2023-24 yn £4.2m, sydd dros 400,000 yn fwy na'r grant chweched dosbarth gan y Llywodraeth.

Beth yw'r opsiynau?

Opsiwn 2: Datblygu’r sefyllfa gyfredol

Byddai darpariaeth ôl-16 yn parhau ar y chwe safle presennol.

Fe fyddai Bwrdd Strategol yn cael ei ffurfio i reoli cyllideb ôl-16 yr awdurdod a sicrhau cyd-gynllunio’r cwricwlwm.

Byddai’r bwrdd hefyd yn comisiynu darpariaeth gan yr ysgolion, e-ysgol a phartneriaid eraill.

Opsiwn 4: Un ganolfan

Byddai’n golygu cau’r ddarpariaeth ôl-16 bresennol a sefydlu Canolfan Ragoriaeth, yn cynnwys ystod o bartneriaid, ar un neu fwy o safleoedd daearyddol addas.

Byddai corff llywodraethol sy’n annibynnol o’r ysgolion yn gyfrifol am y cyllid a’r cwricwlwm.